'Dwi wedi gwario miloedd ar driniaethau endometriosis'
- Cyhoeddwyd
Mae menyw ifanc o Gaerfyrddin yn dweud ei bod hi wedi gwario tua £20,000 dros y ddegawd ddiwethaf ar driniaethau ar gyfer endometriosis oherwydd rhestrau aros hir ar y gwasanaeth iechyd.
Mae Sophie Richards, sy'n 26 oed, yn un o nifer o gleifion wnaeth siarad efo BBC Cymru, sydd wedi dewis talu am driniaethau preifat yn hytrach nag aros ar restrau aros y gwasanaeth iechyd.
Yn ôl cleifion ac ymgyrchwyr mae'r sefyllfa bresennol yn "fater cyfiawnder cymdeithasol, nid yn fater iechyd menywod" yn unig.
Mae endometriosis yn gyflwr hir dymor gyda chleifion yn profi poenau cronig all gael effaith sylweddol ar eu bywyd bob dydd.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw'n blaenoriaethu triniaethau o safon uchel i bobl sy'n byw gydag endometriosis.
Ychwanegon nhw fod cyllid ychwanegol wedi ei roi er mwyn talu am nyrsys arbenigol ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru.
Ond mae grŵp Fair Treatment for the Women of Wales (FTWW) yn dweud bod y rhestrau aros yng Nghymru yn heriol, gyda rhai aelodau o'r grŵp yn cael gwybod bod angen aros chwech neu saith o flynyddoedd am gymorth arbenigol.
Stori Sophie: 'Endometriosis yn rheoli popeth'
Mae Sophie Richards, 26 oed, wedi bod yn byw gyda'r cyflwr am fwy na 10 mlynedd.
"Mae endometriosis yn rheoli popeth, rhwng pwy ffrindiau sy' 'da ti, pryd ti'n mynd mas, pa fwyd ti'n bwyta, lle ma' gwaith ti.
"Pan o'n i yn y brifysgol, collais i lot o'r lectures, collais i gwpl o'r exams, ac o'n nhw dal yn dweud 'o, falle taw rhywbeth jyst yn pen 'di yw e."
Ers ei diagnosis, mae Sophie wedi cael chwe llawdriniaeth ar gyfer ei chyflwr, yn ogystal â degau o driniaethau ac apwyntiadau.
Mae hi'n canmol y gofal mae hi wedi ei dderbyn gyda'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ond yn dweud taw cael mynediad i'r gofal hynny yn brydlon sy'n heriol o safbwynt y claf.
"Fi 'di bod yn rili lwcus i gael help," meddai Sophie, gan gyfeirio at sut mae ei theulu wedi ei chefnogi yn ariannol.
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Sophie wedi dewis gwario mwy na £15,000 er mwyn rhewi ei wyau, a hynny oherwydd rhybuddion gan arbenigwyr fod posibilrwydd y bydd yr endometriosis yn lleihau ei siawns o gael babi.
Mae Sophie yn cydnabod ei braint o allu ariannu'r triniaethau yma ac yn dweud bod "anghydraddoldebau yn bodoli" o safbwynt iechyd menywod.
Mae hefyd wedi bod yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol er mwyn rhannu ei stori ac mae'n dweud bod angen gwneud mwy i addysgu pobl am y symptomau.
'Mwy yn talu am driniaeth breifat'
Dyw stori Sophie ddim yn unigryw yn ôl grŵp FTWW.
Mae'r grŵp wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sydd wedi dewis talu am driniaeth breifat.
Un o aelodau'r grŵp yw'r ymgyrchydd, Beth Hales sy'n teimlo fod y sefyllfa yn "fater cyfiawnder cymdeithasol, nid yn fater iechyd menywod" yn unig.
Mae hefyd yn poeni fod rhai menywod yn teimlo fod yn rhaid iddyn nhw ddibynnu ar gardiau credyd er mwyn talu am driniaeth neu fyw gyda phoen cronig.
Mae Beth Jenkins, o Aberdâr, yn rhedeg tudalen ar Instagram lle mae hi'n rhannu ei phrofiad o fyw gydag endometriosis.
Wedi 10 mlynedd o ddioddef gyda symptomau, penderfynodd Beth dalu £6,000 i weld arbenigwr yn breifat yn ninas Birmingham.
"Fi'n lwcus mae mam a dad yn gallu helpu fi ond os fi angen llawdriniaeth arall, fi ddim yn siŵr bod £6,000 arall ar gael i fi.
"Mynd yn breifat yw'r unig ffordd dwi 'di cael unrhyw un i wrando arnai.
"Fi'n credu bod e'n wych fod Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r issues sydd yna o gwmpas iechyd menywod.
"Mae cymaint o bobl yn dioddef ac yn aros mor hir am atebion. Fi'n credu bod angen i rywbeth newid yn go gloi.
"Mae rhestrau aros yn rhy hir."
'Rhestrau aros tua thair blynedd'
Mae Anthony Griffiths ymhlith yr arbenigwyr yng Nghymru sy'n ffocysu ar endometriosis.
"Ar hyn o bryd, mae ein rhestrau aros tua thair blynedd," meddai'r meddyg sy'n gweithio i'r sector breifat a'r gwasanaeth iechyd yng Nghaerdydd.
"Mae'r rhestr aros i weld fi yn y sector breifat yn wythnosau, o'i gymharu â misoedd ar y gwasanaeth iechyd."
Mae Mr Griffiths yn dweud bod y nyrsys arbenigol sydd wedi eu penodi yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf yn gwneud "gwahaniaeth enfawr", yn enwedig o safbwynt addysgu eraill.
Er hynny, mae Mr Griffiths yn dweud fod angen cael mwy nag un nyrs ym mhob bwrdd iechyd.
"Mae'r nyrsys dan y don o safbwynt delio gyda nifer yr achosion o'r cyflwr," meddai.
Dywedodd llefarydd dros Lywodraeth Cymru fod gan fyrddau iechyd "gyfrifoldeb i ddarparu gwasanaethau gynaecoleg o ansawdd uchel, gan gynnwys diagnosis cynnar o endometriosis, yn unol â chanllawiau NICE."
Ychwanegodd eu bod wedi'u "hymrwymo i sicrhau gofal cyfartal o ansawdd uchel ar gyfer cyflyrau sy'n effeithio ar fenywod, gan gynnwys endometriosis, a bydd GIG Cymru yn cyhoeddi Cynllun Iechyd Menywod 10 mlynedd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd24 Awst 2022
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2023