Aaron Ramsey: 'Bod o flaen y Wal Goch eto yn sbesial'

Mae capten Cymru, Aaron Ramsey wedi dweud y bydd Latfia yn her wahanol i'r un a wynebodd ei dîm yng Nghroatia nos Sadwrn.

Bydd Cymru yn gobeithio am fuddugoliaeth yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn erbyn Latfia yn rowndiau rhagbrofol Euro 2024, a hynny ar ôl pwynt gwerthfawr yn Split dros y penwythnos.

Dywedodd Ramsey hefyd y bydd yn cerdded allan i'r maes gyda'i fab ac y bydd hynny yn gwneud yr achlysur hyd yn oed yn fwy "sbesial".

Yn y cyfamser, bydd Gareth Bale - a wnaeth ymddeol o bêl-droed yn gynharach eleni - yn ymddangos ar y cae cyn y gêm.

Bydd cyfle i gefnogwyr ffarwelio gyda phrif sgoriwr y tîm cenedlaethol, meddai Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Dywed rheolwr Cymru, Rob Page fod 32,000 o docynnau wedi'u gwerthu ar gyfer y gêm nos Fawrth.