Gareth Bale yn ymddeol o chwarae pêl-droed yn 33 oed

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Gareth Bale yn ymddeol o chwarae pêl-droed yn 33 oed

Mae capten tîm pêl-droed Cymru, Gareth Bale, wedi cyhoeddi ei ymddeoliad o'r gamp yn 33 oed.

Mae wedi chwarae 111 o gemau dros ei wlad - record i dîm y dynion - ac mae hefyd yn brif sgoriwr y dynion, gyda 41 o goliau.

Dechreuodd ei yrfa gyda chlwb Southampton, cyn symud i Tottenham Hotspur ac yna i Real Madrid am £85m yn 2013.

Yn fwyaf diweddar fe fuodd yn chwarae i glwb LAFC yn yr Unol Daleithiau.

'Symud ymlaen'

Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd ei fod wedi gwneud y penderfyniad ar ôl "ystyried yn ofalus".

Dywedodd Bale y byddai'n ymddeol ar unwaith, a'i fod yn "teimlo'n ffodus iawn o fod wedi gwireddu breuddwyd o chwarae'r gamp rwy'n ei charu".

"Yn wir mae wedi rhoi rhai o'r cyfnodau gorau yn fy mywyd i mi."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cymro wedi ennill prif gystadleuaeth Ewrop - Cynghrair y Pencampwyr - gyda Real Madrid bump o weithiau

Ar ei yrfa gyda Chymru, dywedodd bod chwarae a bod yn gapten "wir yn freuddwyd", a'i fod yn "teimlo'n amhosib" diolch i'r "holl bobl sydd wedi chwarae eu rhan yn y siwrne".

"Rwy'n teimlo dyled i'r holl bobl sydd wedi helpu i newid fy mywyd a siapio fy ngyrfa mewn ffordd y gallwn i erioed fod wedi dychmygu pan ddechreuais yn naw oed."

Diolchodd i'w gyn-glybiau a'r staff ymhob un ohonynt, ac i'w gefnogwyr, teulu a ffrindiau am eu cefnogaeth.

"Felly, rwy'n symud ymlaen at y cyfnod nesaf yn fy mywyd," meddai.

"Cyfnod o newid, cyfle am antur newydd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Gyda Southampton y daeth Bale i amlygrwydd yn gyntaf, gyda'i ddoniau'n glir er iddo chwarae fwyaf fel cefnwr.

Tottenham oedd y symudiad nesaf yn 2007, a chyfle i drawsnewid ei hun i chwaraewr ymosodol gan sgorio sawl gôl cofiadwy o'r asgell chwith.

Cafodd ei ddewis yn Chwaraewr y Flwyddyn gan ei gyd-chwaraewyr yng ngwobrau'r PFA yn 2011 a 2013.

Pan ymunodd â Real Madrid yn 2013 am £85m, ef oedd y chwaraewr drytaf yn hanes y gêm, gan ymuno â rhai o enwau mwyaf y gamp.

Daeth llwyddiant yn La Liga a Chynghrair y Pencampwyr, gyda'i gôl yn erbyn Lerpwl yn rownd derfynol 2018 yn cael ei chyfrif fel un o'r goreuon erioed mewn ffeinal.

Er y llwyddiant, doedd ei gyfnod yn Sbaen ddim yn fêl i gyd, gyda rhai cefnogwyr yn amau ei ymroddiad i'r clwb, yn enwedig tua diwedd ei gyfnod.

Yn mis Mehefin 2022, arwyddodd dros LAFC yn yr Unol Daleithiau.

Disgrifiad,

GWYLIWCH: Gareth Bale yn torri record prif sgorwyr tîm dynion Cymru

Mae ei 111 ymddangosiad i Gymru yn record i dîm y dynion, yn ogystal â'r 41 o goliau a sgoriodd.

Chwaraeodd am y tro cyntaf yn 2006 - yr ieuengaf erioed ar y pryd - ac ers hynny mae wedi bod yn un o chwaraewyr pwysicaf y tîm dros y blynyddoedd diwethaf.

Roedd yn brif sgoriwr Cymru yn yr ymgyrch i gyrraedd Euro 2016, gan serennu yn y twrnament yn Ffrainc. Ac yn 2022 fe arweiniodd y tîm i Gwpan y Byd am y tro cyntaf mewn dros 60 mlynedd.

Ffynhonnell y llun, Jean Catuffe
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Bale wedi bod yn gyfrifol am rai o uchafbwyntiau Cymru ar y cae pêl-droed dros y blynyddoedd diwethaf

Mewn datganiad arall i gefnogwyr Cymru, dywedodd mai ymddeol o'r tîm rhyngwladol oedd y penderfyniad "anoddaf yn fy ngyrfa, o bell ffordd", ac nad oedd geiriau'n gallu disgrifio'r effaith ar ei fywyd a'r "teimlad pob un tro i mi roi'r crys coch ymlaen".

Roedd cael arwain Cymru yn rhywbeth "nad oes modd cymharu ag unrhyw beth arall i mi ei brofi", meddai, a'i fod yn "fraint" cael bod yn rhan o hanes y wlad a theimlo "cefnogaeth ac angerdd y Wal Goch".

Gorffennodd ei neges at ei "deulu Cymreig", dolen allanol gyda'r gair: "Diolch."

Y gorau erioed i Gymru?

Dywedodd y sylwebydd Nic Parry fod teimlad fod yr "amser wedi dod" i Bale ymddeol, a hynny fel bod cefnogwyr Cymru'n ei gofio cyn i'w allu pêl-droed bylu.

"Diolch amdano fo mor ddiweddar â'r ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd - hebddo fo, fydda ni ddim 'di gwneud hi," meddai wrth BBC Cymru Fyw.

"Ond ar ôl i ni gyrraedd, mi welson ni beth sy'n amlwg - mae'n amser i hwn gamu oddi ar y llwyfan rhyngwladol. Ac i Gareth Bale, erbyn hyn, doedd dim byd arall yn cyfrif ond am chwarae i Gymru.

"'Dan ni'n rhedeg allan o bethau i ddeud amdano fo, a dwi'n falch bod ni'n cael gorffen a deud 'diolch Gareth' cyn bod ni'n dechrau sôn biti bod o ddim y chwaraewr oedd o."

Ffynhonnell y llun, Clive Mason
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Bale yn dathlu ar ôl rhwydo i Gymru yn erbyn yr UDA yng Nghwpan y Byd

Ychwanegodd ei fod yn credu y bydd Bale yn cael ei gofio fel y "gorau ohonyn nhw i gyd" yn y crys coch.

"Sbïwch be' mae o 'di 'neud yn bosib i Gymru, sbïwch be fasa ni ddim 'di allu 'neud hebddo fo," meddai.

"Oherwydd fo mae 'na eraill wedi codi eu gêm, a dwi'n meddwl mai am Gareth Bale fyddwn ni'n sôn fel y gorau i chwarae dros ei wlad, a diolch byth amdano fo."

Mae wedi cael gyrfa "anhygoel" meddai cyn-ymosodwr Cymru, Iwan Roberts, ar raglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru.

"Dwi'n ddiolchgar mod i 'di cael y profiad o wylio wyrach y chwaraewr gorau sydd erioed wedi chwarae ym Mhrydain, ac yn sicr y chwaraewr gorau o Brydain sydd erioed wedi mynd dramor i chwarae."

'Siomedig ond diolchgar'

Cytuno mae'r sylwebydd a chyn-chwaraewr Cymru, Gwennan Harries, mai Bale fydd yn cael ei gofio fel chwaraewr gorau Cymru erioed.

"Fi'n teimlo bach yn upset fel cefnogwr Cymru achos mae 'di rhoi cymaint o adegau i ni, perfformiadau a'r goliau arbennig yn cario ni at bencampwriaethau mawr," meddai wrth BBC Cymru Fyw.

"Ond yn ddiolchgar fwy na dim am yr holl gyfnodau o hapusrwydd a llwyddiant ma' fe 'di dod i ni."

Ychwanegodd y byddai Bale yn gwybod yn well na neb pryd oedd yr adeg gorau i ymddeol, er gwaethaf dymuniadau cefnogwyr i'w weld yn parhau.

Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Gareth Bale deirgwaith yn ystod twrnament hanesyddol Cymru i gyrraedd rownd gynderfynol Euro 2016

"Mae 'di cael cymaint o anafiadau dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hwnna'n anodd i gadw dod yn ôl ohono yn gorfforol a meddyliol," meddai.

"Felly mae'n amlwg bod e 'di cymryd bach o amser ers Cwpan y Byd - siom y tîm o ran perfformiadau, a fe fel unigolyn - a theimlo mae hwn yw'r adeg gorau iddo fe a'i deulu hefyd.

"Mae 'di ymroi gymaint i'r gêm ac i Gymru hefyd, 'na beth sydd 'di bod mor dda... wastad gyda'r ymroddiad yna i chwarae dros Gymru ar bob achlysur posib.

"Mae'n ddiwrnod siomedig i ni, ond o'n ni i gyd yn gwybod fod y diwrnod yma'n mynd i ddod rywbryd."