Beth mae disgyblion Ysgol Aberconwy'n ei wneud i deimlo'n well?
Fe ddisgynnodd canran y bobl ifanc a ddywedodd eu bod yn fodlon gyda'u bywydau rhwng 2017 a 2021, yn ôl arolwg cenedlaethol.
Cyfrannodd dros 123,000 o ddisgyblion ysgolion uwchradd i arolwg Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion 2021.
Dywedodd bron i chwarter y plant ysgol ymatebodd i'r arolwg eu bod wedi wynebu symptomau iechyd meddwl difrifol.
Yn Ysgol Aberconwy mae lles y disgyblion a staff wrth wraidd popeth maen nhw'n ei wneud, yn ôl Cydlynydd Lles ac Iechyd yr ysgol.
Beth mae disgyblion yno yn ei wneud i deimlo'n well, felly? Jaden, Pryce ac Eimear fu'n rhannu'r hyn sy'n eu gwneud nhw'n hapus.