Mwy o bobl ifanc o flaen sgrin a llai yn ymarfer corff
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth pobl ifanc lai o ymarfer corff cyson a threulio mwy o amser o flaen sgrin yn ystod y pandemig, yn ôl arolwg cenedlaethol.
Dim ond 16% o bobl ifanc rhwng 11 a 16 oed ddywedodd eu bod nhw'n gwneud o leiaf awr o ymarfer corff bob dydd.
Cyfrannodd dros 123,000 o ddisgyblion ysgolion uwchradd at arolwg Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion 2021.
Dywed ymchwilwyr y gallai ysgolion ddefnyddio darganfyddiadau'r arolwg er mwyn gwella lles disgyblion.
Llai yn fodlon gyda'u bywydau
Fe gymrodd dros 200 o ysgolion Cymru ran yn yr arolwg, sy'n cael ei gynnal bob yn ail flwyddyn gan Brifysgol Caerdydd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae'n gofyn cyfres o gwestiynau i blant Blynyddoedd 7-11 ynglŷn â'u hiechyd corfforol, iechyd meddwl a pherthnasau cymdeithasol.
Dywedodd bron i chwarter y disgyblion a ymatebodd eu bod wedi cael symptomau iechyd meddwl difrifol.
Roedd merched (28%) bron ddwywaith yn fwy tebygol o ddioddef symptomau iechyd meddwl difrifol o'i gymharu â bechgyn (16%).
Rhwng 2017 a 2021 fe ddisgynnodd canran y bobl ifanc a ddywedodd eu bod yn fodlon gyda'u bywydau.
Pobl ifanc yn Sir Fynwy, Abertawe a Gwynedd oedd yn fwyaf bodlon, tra mai eu cyfoedion ym Merthyr Tudful, Conwy a Wrecsam oedd yn lleiaf bodlon.
Yn Ysgol Aberconwy yng Nghonwy, mae lles disgyblion a staff wrth wraidd popeth maen nhw'n gwneud, yn ôl Cydlynydd Lles ac Iechyd yr ysgol Rhydian Jones.
"Rydyn ni'n trio annog o fewn yr ysgol bod ni'n datblygu iechyd meddwl, iechyd y corff ac iechyd cymdeithasol hefyd," meddai.
"Dwi'n hyfforddwr iechyd meddwl cymorth cyntaf a dwi'n hyfforddi staff i fedru ymdrin a thrafod iechyd meddwl, sydd yn bwnc anodd a sensitif iawn.
"Dwi hyd yn oed yn hyfforddi'r disgyblion fel hyfforddwyr-mini, sydd yn seiliedig ar garedigrwydd a helpu ein gilydd ac edrych ar ôl ein gilydd."
Dywedodd Eimear, disgybl Blwyddyn 11: "Dwi'n gorfod mynd allan a gweld pobl i siarad achos os ti ddim ti jyst yn teimlo'n unig a dyw hwnna ddim yn iawn i dy iechyd meddwl.
"Dwi'n meddwl bod llawer o bobl yn yr ysgol sy'n barod i wrando, ond ti'n gorfod mynd atyn nhw i ofyn iddyn nhw.
"Os ti yn gallu gwneud hwnna maen nhw yna yn barod i wrando os ti'n gofyn am help."
"Dwi wrth fy modd yn mynd ar sgrin - dwi'n gwybod dyw hwnna dim yn swnio'n dda ond dwi yn," meddai Pryce, sydd hefyd ym Mlwyddyn 11.
"Dwi'n chwarae gemau fideo a mae hwnna yn neis i ddianc o'r byd a jyst ymlacio, ond dwi hefyd yn gwneud lot o ymarfer corff.
"Dwi'n gwneud badminton ar ddydd Llun a dwi'n mynd i'r gym a gwneud lot fawr o redeg."
Golwg ar rai o gasgliadau'r arolwg
Dywedodd llai o blant 11-16 oed eu bod nhw'n gwneud ymarfer corff dwys cyson tu fas i'r ysgol o'i gymharu â'r rheiny a ymatebodd i'r arolwg yn 2019 a 2017.
Dywedodd bron i 10% yn rhagor eu bod nhw'n treulio cyfnodau hirach yn eistedd i lawr hefyd.
Roedd bron i 10% o gynnydd yn nifer y plant a ddywedodd eu bod yn mynd i'r gwely yn hwyrach na 23:30 yn ystod yr wythnos, ac roedd 7% yn edrych ar sgrin yn hwyrach na hynny.
Roedd llai o bobl ifanc yn bwyta brecwast bob bore yn ystod yr wythnos o'i gymharu â'r arolygon blaenorol, ac roedd ychydig yn llai yn bwyta pum darn o ffrwythau neu lysiau y dydd.
Dywedodd dros chwarter yr ymatebwyr eu bod yn teimlo dan bwysau oherwydd gwaith ysgol.
Yn ôl tua 60% roedd yna gefnogaeth yn yr ysgol petawn nhw'n anhapus, gofidus neu'n cael trafferth ymdopi, ond roedd y nifer yma'n is nag yn y blynyddoedd cynt.
Roedd gostyngiad yn y nifer a ddywedodd eu bod wedi yfed alcohol ac yn y nifer oedd wedi ysmygu o leiaf unwaith yr wythnos.
Ond gostyngodd nifer y bobl ifanc oedd wedi ysmygu e-sigaréts.
'Anoddach i gysgu'
Dywedodd prif ymgynghorydd iechyd meddwl Iechyd Cyhoeddus Cymru, Emily van der Venter: "Rydyn ni wedi gweld cynnydd sylweddol yng nghanran y bobl ifanc sy'n dweud eu bod nhw'n defnyddio sgriniau cyn mynd i'r gwely.
"Rydyn ni'n gwybod bod cwsg yn bwysig iawn ar gyfer ein hiechyd meddwl a lles.
"Dydyn ni ddim yn gwybod natur y defnydd o sgriniau ond mi fydd hynny'n ysgogi'r ymennydd cyn mynd i gysgu a'i wneud yn anoddach i gysgu.
"Wrth gwrs mae pobl ifanc hefyd yn edrych ar y cyfryngau cymdeithasol cyn mynd i gysgu ac mae problemau yn codi o ganlyniad i hynny hefyd.
"Roedd yna ddarganfyddiadau eraill sy'n llai o sioc hefyd o bosib - er enghraifft, gostyngiad yn y niferoedd sy'n dweud eu bod nhw'n gwneud ymarfer corff tu allan i'r ysgol.
"Unwaith eto, rydyn ni'n gwybod bod iechyd corfforol ac iechyd meddwl yn mynd law yn llaw, ac felly rydyn ni angen gwella faint o ymarfer corff mae plant yn gwneud a bydd hynny'n gwella eu hiechyd meddwl a lles."
Dywedodd Dr Nick Page o Brifysgol Caerdydd bod ysgolion wedi cymryd rhan mewn sawl arolwg erbyn hyn, sy'n rhoi darlun o sut mae ymddygiad disgyblion wedi newid dros amser ac yn help i lunio polisïau.
"Rydym yn gwybod am ysgolion sydd wedi defnyddio'r data i gael gwared ar beiriannau gwerthu yn yr ysgol a newid pa fath o fwyd a diod sydd ar gael i ddisgyblion," meddai.
"Maen nhw'n gallu rhannu'r wybodaeth yma gyda'u cynghorau ysgol, sy'n eu galluogi i wneud newidiadau er lles y plant."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Awst 2022
- Cyhoeddwyd26 Awst 2021