Ffordd osgoi Llanbedr: Sut mae pobl y pentref yn teimlo?
Mae un o weinidogion Cymru wedi dweud wrth drigolion pentref yng Ngwynedd y bydd ffordd newydd yn cael ei hadeiladu yno wedi'r cyfan.
Daeth Llywodraeth Cymru â chynlluniau am ffordd osgoi i ardal Llanbedr i ben yn 2021 oherwydd newid hinsawdd.
Ond fe ddywedodd Llywodraeth Cymru ddydd Mercher y byddan nhw'n cyd-weithio gyda Chyngor Gwynedd "ar becyn o fesurau trafnidiaeth gynaliadwy... gan gynnwys opsiwn ffordd lai".
Mae trigolion y pentref wedi croesawu'r newyddion "ffantastig" gan ddweud y bydd yn lleihau tagfeydd traffig yno.