Ffordd osgoi 'cyflymder isel' ar gyfer Llanbedr wedi'r cyfan

  • Cyhoeddwyd
Pentref Llanbedr
Disgrifiad o’r llun,

Mae pont gul yng nghanol pentref Llanbedr yn golygu bod tagfeydd mawr yn ystod misoedd yr haf

Mae un o weinidogion Cymru wedi dweud wrth drigolion pentref yng Ngwynedd y bydd ffordd newydd yn cael ei hadeiladu yno wedi'r cyfan.

Daeth Llywodraeth Cymru â chynlluniau am ffordd osgoi i ardal Llanbedr i ben yn 2021 oherwydd newid hinsawdd.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddydd Mercher y byddan nhw'n cyd-weithio gyda Chyngor Gwynedd "ar becyn o fesurau trafnidiaeth gynaliadwy... gan gynnwys opsiwn ffordd lai".

Ni chafodd y cynnig ei gyhoeddi'n ffurfiol gan y llywodraeth, ac nid oes unrhyw amserlenni wedi'u rhoi.

Ond disgrifiwyd ffordd osgoi arafach fel dewis arall posib gan y panel adolygu ffyrdd ym mis Tachwedd 2021.

Byddai'n arwain at gau'r A496 drwy Lanbedr ac adeiladu ffordd osgoi cyflymder isel.

Yn 2021, fe benderfynodd gweinidogion ym Mae Caerdydd atal y cynllun i godi ffordd o gwmpas y pentref gan nad oedd yn cyd-fynd â'u gweledigaeth i leihau allyriadau carbon.

Ond mae trigolion wedi mynnu fod y pentref, sy'n profi tagfeydd cyson yn yr haf, bellach yn beryglus a bod lefelau llygredd yn rhy uchel.

Disgrifiad,

Ffordd osgoi Llanbedr: Sut mae pobl y pentref yn teimlo?

Dywedodd Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, ddydd Mercher y cafwyd "cyfarfod adeiladol iawn y bore yma gyda grŵp cymunedol POBL a chynrychiolwyr lleol Llanbedr i fwrw ymlaen ag argymhellion yr adolygiad ffyrdd".

Mae Jane Taylor-Williams yn aelod o grŵp ymgyrchu POBL sydd wedi bod yn galw am ffordd osgoi.

"'Dan ni'n teimlo'n reit hapus ar hyn o bryd. Dw i'n meddwl bod y newyddion yn dechra' suddo mewn 'wan," dywedodd.

"Dw i'n meddwl y bydd o'n fwy diogel i bobl Llanbad i fod yn y pentra' a'r bobl sydd 'isio dod drwy'r pentra' hefyd.

"Mae'r gwahaniaeth i gyd am fod yn huge."

'Gwella ansawdd bywyd'

Dywedodd y panel adolygu ffyrdd: "Bydd cynllun a lled y ffordd osgoi arfaethedig yn caniatáu i gerbydau deithio ar gyflymder o 100cya (tua 60mya)."

Mewn trafodaethau, awgrymodd Cyngor Gwynedd y byddai'n bosibl ailddylunio'r Ffordd Fynediad a'r Ffordd Osgoi gyda "chyflymder dylunio" is (hynny yw, cynllun a lled gwahanol).

"Byddai hynny'n golygu bod gyrwyr yn teithio ar gyflymder tebyg i'r un a welir ar yr A496 i'r gogledd ac i'r de o Lanbedr, sef 39mya ar gyfartaledd.

"Efallai y byddai hyn yn galluogi dyluniad sy'n fwy cydnaws â'r dirwedd bresennol, heb gloddiad, arglawdd na chyffordd aml-lefel."

Ychwanegodd y panel: "Er mwyn sicrhau na fyddai cynnydd yng nghapasiti cyffredinol y ffordd, byddai ffordd yr A496 drwy Lanbedr yn cael ei chau i draffig cyffredinol hefyd (ac eithrio mynediad i gerbydau, a llwybr trwodd i feicwyr a bysiau).

"Byddai hyn yn osgoi creu traffig ychwanegol. Byddai cadw cyflymder cerbydau i tua 40mya yn hytrach na 60mya yn osgoi cynnydd mewn allyriadau carbon hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth degau i ymuno â'r brostest yn y pentref fis diwethaf

Ar ran Plaid Cymru, dywedodd Mabon ap Gwynfor AS a Liz Saville Roberts AS: "Mae'r rhagolygon o leddfu tagfeydd ar yr A496 trwy Lanbedr yn arwyddocaol i'r ardal gyfan.

"Bydd y cynllun arfaethedig yn darparu rhyddhad i gymudwyr lleol a thraffig gwyliau sy'n dibynnu ar y llwybr hanfodol bwysig rhwng Abermaw i Harlech."

"Bydd y cynnig am ffordd liniaru a gwelliannau trafnidiaeth cysylltiedig hefyd yn gwneud y pentref ei hun yn fwy diogel o ran diogelwch ffyrdd ac ansawdd aer glanach.

"Bydd yn gwella ansawdd bywyd yn Llanbedr yn sylweddol."

Fe gerddodd tua 150 o brotestwyr ar hyd y brif ffordd ym mis Mawrth yn galw am ffordd osgoi oherwydd sgil effaith y tagfeydd a'r llygredd aer.

Yn ystod tymor yr haf mae'r lôn yn profi tagfeydd yn aml oherwydd prysurdeb safle gwyliau Mochras gerllaw, a'r lonydd cul sy'n arwain ato.

Mae'r galw am ffordd osgoi yn ymestyn dros gyfnod o 60 o flynyddoedd ac er i Lywodraeth Cymru gymeradwyo ac ymrwymo i ariannu rhan o'r cynllun yn 2020, fe gafodd y penderfyniad ei wyrdroi flwyddyn yn ddiweddarach yn dilyn adroddiad annibynnol "Adolygiad Ffyrdd".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n "amhosib" yn ystod tymor yr haf oherwydd y tagfeydd, meddai Goronwy Edwards

Yn 2022 fe geisiodd Cyngor Gwynedd droi at Lywodraeth y DU gan wneud cais am arian drwy gronfa Ffyniant Bro i ariannu'r cynllun, ond fe fethodd hynny.

Wrth ymateb i'r brotest ym mis Mawrth, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod yr argyfwng newid hinsawdd "yn golygu bod yn rhaid meddwl yn wahanol am drafnidiaeth".

"Dyma pam wnaethom ni sefydlu adolygiad ffyrdd annibynnol er mwyn edrych mewn manylder ar gynlluniau i ehangu capasiti ffyrdd yng Nghymru," meddai ar y pryd.

"Rydym yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd i ddatblygu ffyrdd cynaliadwy i leddfu pwysau traffig a thagfeydd yn y pentref."