'Gallai olygu chwarae tu allan i Fangor tymor nesa'

Nid yw cadeirydd Clwb Pêl-droed Bangor 1876 yn diystyru'r posibilrwydd o orfod chwarae tu allan i'r ddinas yn sgil diffyg eglurder am y dyfodol.

Dywedodd Glynne Roberts wrth Cymru Fyw fod angen trafodaethau rhwng perchnogion Stadiwm Nantporth a'r cwmni sy'n ei redeg er mwyn sicrhau datrysiad hirdymor.

Daw ei sylwadau yn sgil rhybudd gan brif noddwr Bangor 1876, Mark Watkin Jones, y gall ddod â'i gefnogaeth i ben os yw'r clwb yn mynd i bartneriaeth gyda Nantporth CIC.

Gyda £63,000 yn ddyledus gan Nantporth CIC i'r cyngor, dywedodd Mr Watkin Jones na fyddai trefniant o'r fath "yn elwa unrhyw un yn y gymuned".

Dywedodd Dilwyn Jones o Nantporth CIC ei fod yn awyddus i gyfarfod gyda pherchnogion y stadiwm, Cyngor Dinas Bangor, cyn gynted â phosib.