Bangor: 'Y cloc yn tician' ar ddyfodol Stadiwm Nantporth
- Cyhoeddwyd
Fe allai un o glybiau pêl-droed mwyaf poblogaidd y gogledd orfod chwarae y tu allan i'r ddinas y mae'n ei chynrychioli os nad ydy ffrae dros ddyfodol stadiwm yn cael ei datrys yn ystod yr wythnosau nesaf.
Dyna yw rhybudd cadeirydd Bangor 1876 wrth i ddyfodol stadiwm Nantporth unwaith eto ddod o dan y lach.
Wrth i'r clwb obeithio sicrhau dyrchafiad i'r Cymru North y tymor nesaf, y disgwyl oedd y byddent yn symud o'u cartref presennol yn Nhreborth i brif stadiwm y ddinas.
Ond mae'r dyfodol yn fwy aneglur nag erioed wedi i brif noddwr Bangor 1876 rybuddio y gallai ei gefnogaeth ddod i ben os yw'r clwb yn mynd i bartneriaeth gyda'r cwmni sy'n rhedeg y cyfleuster.
Camau cyfreithiol
Mae Stadiwm Nantporth, a agorodd ei ddrysau yn 2012 wedi i CPD Dinas Bangor symud o Ffordd Ffarrar, yn cael ei redeg gan Gwmni Buddiant Cymunedol (CIC) ar ran Cyngor Dinas Bangor.
Yn ogystal â phrif faes sydd â dros 1,000 o seddi a thrwydded i gynnal rhai gemau Ewropeaidd a rhyngwladol, mae Nantporth CIC yn berchen ar faes 4G sy'n cael ei ddefnyddio'n gyson gan sawl clwb lleol llawr gwlad.
Ond gyda £63,000 yn ddyledus gan Nantporth CIC i'r cyngor, mae'r awdurdod eisoes wedi bygwth camau cyfreithiol.
Yn ôl Nantporth CIC mae'r rhan helaeth yn deillio o fethiant CPD Dinas Bangor - oedd yn is-denantiaid tan iddyn nhw ildio'u les yn 2022 - i dalu eu rhent ar y stadiwm.
Ond dywedodd y cyngor fod yr "anghydfod yn ymwneud â thorri telerau'r les yn barhaus" a bod ganddyn nhw gyfrifoldeb i "weithredu er budd trethdalwyr Bangor".
Er nad oes tîm Dinas Bangor bellach, yn 2019 fe ffurfiwyd CPD Bangor 1876 gan gefnogwyr Dinas Bangor a oedd yn anhapus gyda'r ffordd yr oedd eu cyn-glwb yn cael ei redeg.
Wedi dringo'r pyramid, gall y clwb gael dyrchafiad i'r ail haen y tymor nesaf - gyda'r gemau ail gyfle y llwybr mwyaf tebygol.
Ond gyda gofynion y meysydd yn golygu'r angen i symud, mae hyn wedi achosi cur pen i bwyllgor y clwb.
'Dibynnol ar y nawdd'
"Yn anffodus dydi cyfleusterau Treborth ddim yn cyrraedd gofynion yn ail haen, felly os gawn ni ddyrchafiad fyddwn ni angen cae sy'n addas i'r pwrpas," meddai'r cadeirydd, Glynne Roberts, wrth BBC Cymru Fyw.
"Filltir i ffwrdd mae Nantporth a 'da ni wedi datgan diddordeb mewn chwarae yno ac wedi cael cytundeb i wneud hynny."
Tra'n ddiolchgar i Brifysgol Bangor am gael defnyddio Treborth, dywedodd Mr Roberts fod Nantporth gyda'r potensial i fod yn "ganolbwynt i'r gogledd orllewin i gyd".
"Yn arwain i Treborth mae na lôn tua hanner milltir o hyd sydd ond ddigon llydan i un car, mae'n safle agored iawn ac anodd denu pobl yno, tra yn Nantporth mae digon o le parcio a digon o le i bobl gysgodi.
"Fy nyhead yw gweithio gyda chlwb merched Bangor 1876 ac ymgartrefu yn Nantporth."
Ond yn sgil yr anghydfod rhwng Cyngor Dinas Bangor a Nantporth CIC, ychwanegodd eu bod mewn "sefyllfa ofnadwy o anodd" ac bod ganddynt "ond mis i chwe wythnos i sortio'r anghydfod" cyn y tymor newydd.
Mae hyn wedi i brif noddwr y clwb ddatgan mewn llythyr na fyddai'n fodlon parhau gyda'i gefnogaeth os byddai'r clwb yn mynd i gytundeb gyda Nantporth CIC.
Dywedodd Mark Watkin Jones wrth Cymru Fyw: "Ein pryder yw pe bai Bangor 1876 yn ymuno â'r CIC, beth bynnag fo'r trefniadau hynny, yna gallai'r ddyled, mewn rhyw ffordd, ddod yn gyfrifoldeb Bangor 1876 yn y pen draw - naill ai drwy orfod dod o hyd i arian ychwanegol neu beidio â chael maes i'w chwarae ynddo hanner ffordd trwy'r tymor.
"Pe bai'r cyngor yn gorfodi nhw allan, ni fyddai'n elwa unrhyw un yn y gymuned."
Aeth ei lythyr i'r clwb ymlaen i ddweud mai'r "ateb mwyaf synhwyrol fyddai i'r CIC gytuno i ildio eu prydles gyda Chyngor Dinas Bangor, ac i Gyngor Dinas Bangor gytuno ar brydles newydd gyda chwmni newydd".
"Mae'n ddrwg gennym hysbysu nad yw Watkin Property Ventures yn fodlon parhau â'n cefnogaeth ariannol i Bangor 1876 os ydynt yn ymwneud â CIC gan, yn ein barn ni, fydd o ddim er lles Bangor 1876 na'r gymuned ehangach yn y tymor hir."
Wedi cytuno i ddarparu £20,000 y flwyddyn i'r clwb dros gyfnod o dair blynedd, dolen allanol, dywedodd Glynne Roberts fod y clwb yn "ddibynnol i raddau helaeth" ar y nawdd hwnnw.
Ar ôl cynnal cyfarfod cefnogwyr nos Fawrth i drafod cynnwys y llythyr, ychwanegodd Mr Roberts fod "y cefnogwyr i gyd yn awyddus i'n gweld yn Nantporth tymor nesaf" ac yn gefnogol i sylwadau Mr Watkin Jones, ond fod "y cloc yn tician".
Ychwanegodd mai ei obaith yw y byddai Nantporth CIC yn cytuno i newid eu strwythur er mwyn bodloni pawb.
"Mae gynnon ni bryderon nad ydi'r prosesau cyfreithiol yn cael eu cyflwyno'n ddigon cyflym i ni ddatrys hyn cyn dechrau'r tymor nesaf," meddai.
Ychwanegodd os nad ydi chwarae yn Nantporth yn bosib, mi all olygu gorfod chwarae mewn stadiwm y tu allan i Fangor er mwyn cael chwarae yn yr ail haen, "hyd yn oes os ydi hynny dros dro...ond mae'n rhywbeth mae'n rhaid i ni ei ystyried".
'Yma er budd yr holl glybiau'
Nid yw Cyngor Dinas Bangor wedi ymateb i gais gan BBC Cymru am sylw.
Dywedodd Dilwyn Jones, un o gyfarwyddwyr Nantporth CIC, na fyddai'n ymateb yn uniongyrchol i'r llythyr gan "ei fod yn fater rhwng Bangor 1876 a'i noddwyr".
Ond dywedodd wrth Cymru Fyw ei fod yn ceisio trefnu cyfarfod wyneb yn wyneb gyda Chyngor Dinas Bangor o fewn yr wythnosau nesaf.
Gyda sawl clwb a 2,000 o bobl yn defnyddio'r cyfleuster yn fisol, dywedodd y dylai Nantporth "fod yna ar gyfer yr holl glybiau sy'n ei ddefnyddio".
Ychwanegodd fod Nantporth CIC yn parhau i geisio denu arian grant i wella'r cyfleusterau, ond fod "yr holl drwbl yn deillio'n hanesyddol o drafferthion CPD Dinas Bangor".
"O'n safbwynt ni mae cytundeb i Bangor 1876 chwarae yn Nantporth y tymor nesaf, rydym wedi cydweithio gyda'r clwb ar hyd yr amser," meddai Mr Jones, sydd hefyd yn gyn-gadeirydd CPD Dinas Bangor.
"Mae'r dogfennau i gyd yn eu lle... wnaeth eu galluogi nhw i sicrhau'r drwydded angenrheidiol.
"Cyn belled â 'da ni yn y cwestiwn mae'r cytundeb yma'n parhau i fod mewn lle.
"O ran cyfarfod gyda'r Cyngor Dinas, rydym yn disgwyl i hyn ddigwydd erbyn ddiwedd y mis.
"Does 'na neb yn fwy awyddus i gynnal y trafodaethau yma na ni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd24 Mai 2022
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2011