Teimladau hirdymor tu ôl i anhrefn Trelái - Drakeford
Mae gan yr heddlu gwestiynau i'w hateb am y terfysg yn Nhrelái nos Lun, meddai Prif Weinidog Cymru.
Ond dywedodd Mark Drakeford y dylai pobl aros am ganlyniad yr ymchwiliad annibynnol cyn gwneud dyfarniad am ymateb yr heddlu.
Awgrymodd fod rhesymau hirdymor tu ôl i'r golygfeydd treisgar nos Lun a bod torri gwariant cyhoeddus, gan gynnwys yn yr heddlu, wedi "chwarae ei ran yn y digwyddiadau".
Mae etholaeth Mr Drakeford yn Senedd Cymru, Gorllewin Caerdydd, yn cynnwys Trelái.
Dywedodd y byddai'n cynnal cyfarfod o asiantaethau cyhoeddus ddydd Gwener i drafod achosion cefndirol y trais.
Yn ei gyfweliad cyntaf ers y digwyddiad, dywedodd Mr Drakeford: "Mae yna gwestiynau i'r heddlu eu hateb, ry'n ni'n gwybod."