Trelái: Heddlu 'hanner milltir i ffwrdd' adeg gwrthdrawiad angheuol
- Cyhoeddwyd
Roedd yr heddlu yn teithio ar ffordd wahanol pan gafodd dau ffrind gorau eu lladd mewn gwrthdrawiad, yn ôl uwch swyddog.
Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, ar Ffordd Snowden yn ardal Trelái, Caerdydd nos Lun.
Ond mae Heddlu'r De wedi cydnabod eu bod wedi bod yn dilyn y ddau fachgen am gyfnod cyn y gwrthdrawiad.
Fe arweiniodd y digwyddiad at anhrefn yn yr ardal, gydag anafiadau i swyddogion yr heddlu.
Dywedodd y llu fod pedwar person wedi eu harestio ar y noson - dau fachgen 15 oed o Drelái a Llanrhymni, merch 16 oed o'r Rhath, a bachgen 16 oed o Drelái.
Ddydd Iau cafodd pum person arall eu harestio ar amheuaeth o reiat - dau fachgen 16 ac 17 oed yn Nhrelái, dau ddyn 18 a 29 oed yn Nhrelái, ac un dyn 21 oed yn Nhremorfa.
Ymchwiliad yn parhau
Brynhawn Mercher, dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu'r De fod cerbyd yr heddlu ar Grand Avenue ar adeg y gwrthdrawiad am 18:02.
Yn siarad mewn cynhadledd i'r wasg, ychwanegodd Rachel Bacon nad oedd unrhyw gerbydau eraill yn rhan o'r digwyddiad.
Ond fe wrthododd ateb cwestiwn gan newyddiadurwr a ofynnodd pam roedd yr heddlu'n dilyn y ddau lanc yn gynharach.
Mae'r heddlu bellach wedi cyfaddef eu bod wedi dilyn y bechgyn am gyfnod, a hynny ar ôl i Gomisiynydd Heddlu De Cymru wadu bod unrhyw gyswllt rhwng y bechgyn a'r heddlu cyn y digwyddiad.
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn cynnal ymchwiliad annibynnol i amgylchiadau'r gwrthdrawiad.
Nos Lun, 22 Mai: Amserlen mewn fideos
'Hanner milltir i ffwrdd'
Gan gyfeirio at linell amser o'r digwyddiadau, dywedodd Ms Bacon fod y gwrthdrawiad wedi digwydd hanner milltir i ffwrdd o unrhyw gerbyd heddlu.
"Doedd dim cerbyd heddlu ar Ffordd Snowden ar adeg y gwrthdrawiad ac nid ydym yn credu fod unrhyw gerbydau eraill yn rhan o'r digwyddiad," meddai.
"Rwyf eisiau bod mor dryloyw ac agored ag y gallaf gyda chymunedau Trelái fel eu bod yn deall beth sydd wedi digwydd."
Yn sgil yr anhrefn a ddilynodd, ychwanegodd eu bod yn apelio am unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth fideo gan aelodau o'r cyhoedd.
"Ni all unrhyw beth esgusodi lefel y trais ac anhrefn. Cafodd eiddo ei ddifrodi ac roedd pobl yn ofnus yn eu cartrefi eu hunain," ychwanegodd Ms Bacon.
"Ein ffocws nawr yw ymchwilio'n llawn i amgylchiadau'r gwrthdrawiad a'r golygfeydd erchyll a ddilynodd."
Yn gynharach roedd Comisiynydd Heddlu De Cymru wedi mynnu nad oedd y ddau fachgen yn cael eu hymlid (chase) gan y llu ar y pryd.
Roedd y comisiynydd Alun Michael wedi dweud yn wreiddiol nad oedd unrhyw gyswllt rhwng y bechgyn a'r heddlu cyn y digwyddiad.
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Mercher, mewn ymateb i gwestiwn a oedd ei sylw y bore cynt yn anghywir, dywedodd Mr Michael: "Na.
"Ddaru ffeithiau newydd ddod allan am y ffaith bod, ychydig cyn y ddamwain, ar stryd arall, oedd 'na gar heddlu yn mynd tu ôl i feic gyda bechgyn arno fo," meddai.
"Mae hwnna wedi cael ei referrio i'r IOPC, sydd y peth iawn i'w wneud.
"Mae'n bwysig iawn i edrych i'r holl ffeithiau, ond mae'r ffaith yn dal i fod, fel dwi'n deall, fod 'na ddim car na fan yr heddlu yn mynd ar ôl y bechgyn pan ddaru'r ddamwain ddigwydd."
Mae Aelod Seneddol Llafur wedi cwestiynnu ai Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru oedd y "person cywir" i fod yn cysylltu gyda'r cyhoedd wedi'r anhrefn.
Dywedodd Kevin Brennan wrth bodlediad Walescast y BBC ei fod yn "siwr" fod Mr Michael wedi rhoi gwybodaeth mor gywir â phosib.
"Rwy'n credu ei bod yn gall i ni adlewyrchu ar sut y dylid delio gyda digwyddiadau fel hyn, a sut y dylid delio gyda'r cyfathrebu," meddai AS Gorllewin Caerdydd.
"Mae'n gwestiwn da - ai'r comisiynydd heddlu a throsedd yw'r person cywir yn yr amgylchiadau yma i fod yn cyfathrebu'n effeithiol gyda'r cyhoedd?"
Ychwanegodd yr aelod Plaid Cymru yn y Senedd, Heledd Fychan: "Mae comisiynwyr heddlu a throsedd yn cal eu hethol gan y cyhoedd i fod yn lais y bobl.
"Un o brif nodau Mr Michael ydy 'dal yr heddlu i gyfrif'.
"Mae'n ymddangos fod Alun Michael wedi ymddwyn fel llefarydd i Heddlu De Cymru yn hytrach na'r gymuned, ac rwy'n credu ei fod angen egluro pam fod hynny, a sicrhau fod y ffeithiau yn cael eu sefydlu yn annibynnol cyn gwneud datganiadau cyhoeddus."
Mae swyddfa Mr Michael wedi cael cais am ymateb i'r sylwadau.
Amser cinio ddydd Mercher fe gadarnhaodd yr IOPC y byddan nhw'n cynnal ymchwiliad annibynnol i'r digwyddiad a arweiniodd at farwolaethau'r bechgyn.
"Byddwn yn ymchwilio i unrhyw gyswllt rhwng yr heddlu a'r bechgyn wedi i CCTV ddod i'r amlwg sydd i weld yn dangos cerbyd heddlu yn dilyn beic cyn y digwyddiad," meddai eu datganiad.
Ychwanegodd cyfarwyddwr yr IOPC, David Ford: "Mae'r digwyddiad yma a'r hyn a ddilynodd wedi, yn ddealladwy, denu diddordeb a phryder sylweddol gan y cyhoedd.
"Mae'n bwysig ein bod yn ymchwilio i'r mater yn annibynnol ac yn drylwyr er mwyn sefydlu'r ffeithiau a'r amgylchiadau o beth yn union ddigwyddodd ddydd Llun."
Dywedodd Cyngor Caerdydd fod 14 aelod o staff a 10 cerbyd wedi bod yn rhan o'r gwaith glanhau ddydd Mawrth wedi'r anhrefn y noson gynt.
Cafodd tri o gerbydau eu llosgi, ac maen nhw'n amcangyfrif mai £19,500 fydd y gost o drwsio'r ffordd a'r palmant.
Fe gafodd golau stryd hefyd ei losgi, ac maen nhw'n amcangyfrif y bydd yn costio £2,000-3,000 i drwsio hwnnw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2023
- Cyhoeddwyd23 Mai 2023
- Cyhoeddwyd23 Mai 2023
- Cyhoeddwyd23 Mai 2023