'Simply the Besda'? Cysylltiad Cymreig Tina Turner
Bu farw un o eiconau mwyaf y byd pop, Tina Turner, yn 83 oed ar 24 Mai.
Yn rhyfeddol iawn mae enw'r gantores wnaeth hawlio'r teitl 'Brenhines Roc a Rôl' ar goeden deulu'r cerddor a'r cyflwynydd, Rhys Mwyn.
Yn ôl cyn-ganwr Yr Anhrefn daw'r cysylltiad â Tina Turner trwy ei hen hen daid - oedd â'r cyfenw Bullock - oedd wedi symud i weithio o'r Amwythig i chwareli Dyffryn Nantlle.
"'Da ni'n perthyn o bell. 'Da ni ar y goeden deulu a'r cysylltiad ydi'r Bullocks," meddai Rhys wrth raglen Dros Frecwast.
"Mi fydd 'na rei yn cofio Dafydd a Lliwen Bullock oedd yn canu ac yn cadw'r Royal Oak yn Rachub - felly mae Bullocks Bethesda ar y goedan teulu, a mae 'na Bullocks yng nghymoedd y de."