Rhys Mwyn a'i gysylltiad teuluol â Tina Turner

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Y cerddor Rhys Mwyn yn esbonio sut mae o'n perthyn o bell i Tina Turner

Bu farw un o eiconau mwyaf y byd pop, Tina Turner, yn 83 oed ar 24 Mai, 2023.

Yn rhyfeddol iawn mae enw'r gantores wnaeth hawlio'r teitl 'Brenhines Roc a Rôl' ar goeden deulu'r cerddor a'r cyflwynydd, Rhys Mwyn.

Pan oedd o'n ifanc mae'n cofio ei Dad yn sôn am "y ferch 'ma" o America roedd o'n perthyn iddi, esboniodd ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.

Ni wyddai Rhys a'i frawd mai'r llais tu ôl i rai o'r caneuon enwocaf erioed fel The Best and What's Love Got to Do With It oedd o'n sôn amdani.

Yn ôl cyn-ganwr Yr Anhrefn daw'r cysylltiad â Tina Turner trwy ei hen hen daid - oedd â'r cyfenw Bullock - oedd wedi symud i weithio o'r Amwythig i chwareli Dyffryn Nantlle.

Ganwyd Tina Turner yn 1939 yn Brownsville, Tennesse, i Ffloyd Richard Bullock a Zelma Priscilla.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Tina Turner wyth Grammy ac fe werthodd hi dros 150 miliwn o recordiau ar draws y byd

"'Da ni'n perthyn o bell. 'Da ni ar y goeden deulu a'r cysylltiad ydi'r Bullocks," meddai Rhys wrth Dylan Ebenezer.

"Mi fydd 'na rei yn cofio Dafydd a Lliwen Bullock oedd yn canu ac yn cadw'r Royal Oak yn Rachub - felly mae Bullocks Bethesda ar y goedan teulu, a mae 'na Bullocks yng nghymoedd y de.

"Yn ei hunangofiant My Love Story gan Tina Turner mae hi'n dweud - 'mi oedd gen i ddwy Nain... Un Nain ochr fy Nhad 'Nanna Roxanna Bullock' oedd yn sobr o strict. A'r Nain ochr fy Mam, Nain Georgia Currie oedd yn garedig ac yn hwyliog'.

"Ond dyna'r cysylltiad, mae o o bell, ond ein jôc ni bob amser oedd (dweud) 'modryb Tina'.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ymunodd â'r Rock and Roll Hall of Fame fel artist sengl yn 2021

"Mae o'n ddiddorol. A piti mawr achos pan 'nes i feddwl am gysylltu efo Tina roedd hi'n sâl efo dementia ac wedi symud i'r Swistir.

"'Nes i erioed gysylltu, ond roeddwn i wedi meddwl gwneud jest i weld 'swn i'n gallu ffeindio'n union be' oedd y cysylltiad.

"Y cwestiwn arall ydi, a mae hwn yn un mae angen bod yn sobr o ofalus amdano fo... Os ydi'r enwau 'ma yn dod oherwydd unrhyw waith siwgr ac yn y blaen ynde... Os ydyn nhw wedi etifeddu enw oherwydd caethwasiaeth.

"Ond fedrai'm gweld sut fedran teulu ni (fod) fel linc felly."

'Tyfu fyny efo'r stwff 'ma'

Mae rhai o sêr mwya'r byd fel Beyoncé, Mick Jagger a Elton John wedi bod yn talu teyrngedau i Tina Turner wedi iddi farw yn dilyn blynyddoedd o salwch.

Wedi blynyddoedd cythryblus gyda'i phartner Ike Turner mi ddychwelodd i fod yn un o berfformwyr mwyaf llwyddiannus yr 80au a'r 90au.

"Er enghraifft What's Love Got to Do With It - 'da ni 'di tyfu fyny efo'r stwff 'ma yn do," meddai Rhys wrth Dylan Ebenezer.

"Yn yr 80au gafodd hi adfywiad. Roedd hwnna fel trac sain i'n bywydau ni yn doedd."

Pynciau cysylltiedig