Caernarfon: Dyn ifanc fu farw yn 'ffrind i bawb'

Mae teyrngedau wedi'u rhoi i ddyn ifanc o Wynedd fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar gyrion Caernarfon nos Wener.

Bu farw Joshua Lloyd Roberts, 19, yn dilyn adroddiadau fod dyn wedi ei ganfod ar Ffordd Waunfawr yng Nghaeathro.

Yn rhoi teyrnged iddo dywedodd ei ffrind Catrin Edith Parry fod Josh yn "fwrlwm o fywyd" ac "un o fil".

Ychwanegodd fod yr ymateb i'w farwolaeth yn "dangos sut fath o berson oedd Josh, a'r ffaith ei fod o'n ffrind i bawb".

Mae dyn 19 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, methu â stopio ar ôl gwrthdrawiad a methu â hysbysu am wrthdrawiad.