Gwynedd: Arestio gyrrwr wedi marwolaeth dyn, 19
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus yn dilyn gwrthdrawiad ar gyrion Caernarfon nos Wener.
Bu farw Joshua Lloyd Roberts, 19, yn dilyn adroddiadau fod dyn wedi ei ganfod ar Ffordd Waunfawr yng Nghaeathro.
Wedi galw'r gwasanaethau brys am 23:06, er gwaethaf eu hymdrechion cadarnhaodd Heddlu'r Gogledd ei fod wedi marw yn y fan a'r lle.
Dywedodd yr Arolygydd Iwan Roberts o uned plismona'r ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru, fod "sawl ymholiad yn cael eu cynnal er mwyn darganfod yr hyn ddigwyddodd nos Wener".
"Fe allwn ni gadarnhau fod dyn 19 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, methu â stopio ar ôl gwrthdrawiad a methu â hysbysu am wrthdrawiad," meddai.
"Mae eisoes wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal."
Mewn datganiad dywedodd teulu Joshua Lloyd Roberts ei fod yn "gefnogwr pêl droed brwdfrydig" a wastad â "gwên ar ei wyneb".
"Magwyd Joshua yng Nghaernarfon a cafodd ei addysg yn lleol. Roedd Joshua yn ddyn hapus a gweithgar a oedd hefo amser o hyd i bawb.
"Roedd yn adnabyddus iawn yn yr ardal ac roedd yn mwynhau treulio ei amser hefo'i ffrindiau a'i deulu - hefo gwên ar ei wyneb o hyd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Roedd yn ffyddlon i'w deulu a buasai'n rhoi ei amser i unrhyw un. Roedd yn frawd mawr gwych i Roni, yn frawd bach ffantastig i Abi, a llys-frawd i Jâc.
"Roedd yn gefnogwr pêl droed brwdfrydig ac roedd yn mwynhau cefnogi tîm Everton (COYB) a'i dîm lleol, Caernarfon. Roedd yn aelod gwerthfawr o dîm pêl droed Bontnewydd ac hefyd Cymdeithas GymGym Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
"Hoffai ei deulu ddiolch i bawb sydd wedi cysylltu â nhw ar yr adeg anodd yma.
"Rydym wedi torri ein calonnau a hoffem rŵan gael preifatrwydd er mwyn galaru."
Ychwanegodd yr heddlu bod eu "cydymdeimlad dwysaf gyda theulu Joshua" a'u bod yn derbyn cymorth swyddogion arbenigol.
"Rydym yn erfyn ar unrhyw un a oedd yn teithio'n yr ardal o amgylch neu toc cyn 23:00 i gysylltu â ni.
"Rydym hefyd yn apelio ar unrhyw un sydd â lluniau camera cerbyd i gysylltu cyn gynted ag sy'n bosib."
'Pêl-droediwr dawnus'
Wedi ei ddisgrifio gan Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon, fel "disgybl hynod o annwyl a pharchus", fe ychwanegon nhw fod ei "natur hwyliog yn amlwg i bawb fu yn ei gwmni".
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn ôl y GymGym, cymdeithas myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Caerdydd, roedd y pêl-droediwr dawnus yn "chwaraewr gwych, ond person a ffrind gwell".
Ychwanegodd Undeb Myfyrwyr y brifysgol ei fod yn "aelod ffyddiog, poblogaidd a llawn egni o'r gymuned Gymraeg yng Nghaerdydd".
Ar ei gyfrif Twitter fe wnaeth prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, dalu teyrnged ar ran y gymdeithas.
"Mae'n ddrwg gan bawb yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru i glywed am farwolaeth Josh," ysgrifennodd, dolen allanol.
"Mae ein meddyliau gyda'i deulu a'i ffrindiau."
Ychwanegodd byddai'r gymdeithas yn nodi marwolaeth Mr Roberts yn ystod gêm nesaf Cymru yn erbyn Armenia ar 16 Mehefin.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn gefnogwr o glwb Caernarfon a'r tîm cenedlaethol, roedd Josh Lloyd Roberts wedi chwarae dros dimau ieuenctid Caernarfon yn ogystal â Met Caerdydd a Bontnewydd.
Mae clwb Bontnewydd eisoes wedi cyhoeddi y bydd gêm er cof amdano yn cael ei chwarae nos Iau, 8 Mehefin, yn erbyn CPD Caernarfon.
Bydd casgliad hefyd yn cael ei gynnal ar y noson, dolen allanol, gyda'r gic gyntaf am 18:30.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2023