'Beth am slacio polisi iaith y Steddfod ar gyfer Maes B?'

Mae un o'r bandiau a chwaraeodd ym Maes B y llynedd wedi awgrymu y gallai'r Eisteddfod Genedlaethol lacio ei rheol iaith ar gyfer cerddorion sy'n perfformio yn y maes ieuenctid.

Daw hynny wedi i'r artist Sage Todz ddweud na fydd yn perfformio yn y Brifwyl eleni oherwydd ei fod wedi cael gwybod bod "gormod o Saesneg" yn ei ganeuon.

Fe wnaeth hynny arwain at ymateb cymysg, gyda nifer ar y cyfryngau cymdeithasol yn mynegi siom na fyddai un o artistiaid amlycaf y sin gerddoriaeth Gymraeg yn ymddangos, ac eraill yn amddiffyn safbwynt yr Eisteddfod.

Mewn datganiad dros y penwythnos dywedodd yr Eisteddfod eu bod wedi'u "tristáu'n fawr" gan hiliaeth a anelwyd at Sage Todz ac eraill wedi ei gyhoeddiad.

Ymhlith y rheiny wnaeth leisio'u barn ar y pwnc ar y cyfryngau cymdeithasol dros y penwythnos roedd band Adwaith, a chwaraeodd ym Maes B yn Nhregaron y llynedd.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Llun, dywedodd Gwenllian Anthony o'r band ei bod hi'n ystyried safbwynt yr Eisteddfod yn "ddigon teg i ddechrau".

Ond wedyn mae'n dweud iddi sylwi fod nifer o ddysgwyr, ac eraill nad oedd yn hyderus yn eu Cymraeg, yn "teimlo bod yr Eisteddfod yn intimidating neu ddim yn accessible iddyn nhw".

"Falle byddai slacio'r polisi ym Maes B, a chadw [prif faes yr] Eisteddfod fel mae e o ran polisi iaith, yn 'neud e'n fwy accessible... i bobl sydd ddim yn iaith gyntaf Gymraeg," meddai.

Gallai hynny olygu caniatáu mwy o ddwyieithrwydd mewn setiau cerddorol ym Maes B, er enghraifft, cyn belled â bod "mwy o Gymraeg na Saesneg".

"I gael miliwn o siaradwyr mae'n rhaid i ni ddenu pobl i'r Steddfod sydd ddim yn siarad Cymraeg eniwe, ac mae'n amlwg bod 'na bobl yn teimlo bod nhw'n methu mynd i Faes B," meddai Gwenllian Anthony.

Ychwanegodd ei bod hi'n "deall" y pryder gan rai y gallai agor y drws i fwy o Saesneg fod yn llethr llithrig.

"Gallen ni drial pethau, slacio'r polisi iaith, neu implementio rhywbeth arall... os yw e ddim yn gweithio, dyw e ddim yn gweithio, ond there's no harm in trying."