Dim Sage Todz yn y Steddfod wrth i'r rheol iaith aros

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Sage TodzFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sage Todz - neu Toda Ogunbanwo, i roi ei enw iawn - yn artist dril amlwg yn y sin gerddoriaeth Gymraeg

Mae'r perfformiwr Sage Todz wedi dweud na fydd yn perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni gan fod penaethiaid y Brifwyl wedi dweud wrtho bod gormod o Saesneg yn ei ganeuon.

Mewn neges ar ei gyfrif Twitter, dywedodd yr artist cerddoriaeth dril nad oedd yn gwrthwynebu'r penderfyniad, ond nad oedd am newid ei ganeuon oherwydd y rheol iaith.

Fe wnaeth y cyhoeddiad ddenu tipyn o ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda rhai'n mynegi siom ac eraill yn cefnogi safbwynt yr Eisteddfod, sy'n dweud bod yn rhaid i artistiaid berfformio yn y Gymraeg.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod eu bod nhw'n "parchu'r ffaith" bod Sage Todz yn artist dwyieithog, ond bod "ein rheol iaith ni'n greiddiol i ni".

'Dim protestio ydw i'

Mae Sage Todz, sy'n wreiddiol o Benygroes yng Ngwynedd, wedi dod yn artist amlwg yn y sin gerddoriaeth Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae'n aml yn cyfuno penillion Cymraeg a Saesneg wrth rapio, ac fe gafodd ei gân 'O Hyd' - fersiwn newydd o glasur Dafydd Iwan - ei rhyddhau ar y cyd gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru cyn Cwpan y Byd y llynedd.

Dyw'r Eisteddfod Genedlaethol eleni ddim yn bell o fro ei febyd, ym Moduan ar gyrion Pen Llŷn - ond fe gyhoeddodd Sage Todz nos Iau na fydd yn perfformio yno.

"I'r pobl sy'n gofyn, ni fyddai yn cael perfformio yn Maes B na Eisteddfod blwyddyn yma o achos polisi iaith Cymraeg nhw," meddai ar Twitter.

"Basically mae nhw wedi dewis bod yna gormod o Saesneg yn caneuon fi."

Ffynhonnell y llun, Toda Ogunbanwo
Disgrifiad o’r llun,

Rhyddhaodd Sage Todz ei EP cyntaf 'Sparetime' yn 2020, sydd hefyd yn bortread o fywyd unig fel plentyn du yng ngogledd Cymru

Yn ddiweddarach fe ymatebodd i neges yn awgrymu y dylai felly ddilyn rheolau'r Eisteddfod, ac addasu ei gerddoriaeth.

"Dwi ddim yn protestio, dwi jyst yn rhoi gwybod i bobl pam fydda i ddim yna," meddai'r cerddor. "Mae fy nghaneuon i'n gynhyrchion gorffenedig, a dwi ddim am eu newid nhw."

'Parchu egwyddorion'

Mewn datganiad, fe ddywedodd yr Eisteddfod eu bod nhw wedi cynnal trafodaethau gyda Sage Todz, a'u bod nhw'n parchu "egwyddorion" ei gilydd ar y mater.

"Mae canu'n ddwyieithog ac yn Saesneg yn greiddiol i egwyddorion Sage Todz, yn union fel mae ein rheol iaith ni'n greiddiol i ni fel gŵyl a sefydliad," meddai llefarydd.

"Cynigiwyd nifer o gyfleoedd iddo berfformio yn y Gymraeg yn yr Eisteddfod eleni, gan gynnwys cymryd rhan flaenllaw mewn digwyddiad mawr i gloi'r ŵyl a oedd yn gomisiwn i greu caneuon newydd yn y Gymraeg.

"Trafodwyd ein rheol iaith yn helaeth gyda Sage Todz, ac rydyn ni'n parchu'r ffaith ei fod yn artist dwyieithog, ac mai ei benderfyniad oedd cadw at ei egwyddorion a pharhau i greu cerddoriaeth ddwyieithog a Saesneg."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sage Todz nad oedd yn "protestio" penderfyniad yr Eisteddfod, ond nad oedd chwaith am newid geiriau ei ganeuon

Wrth ymateb i'r drafodaeth dywedodd y Bardd Plant Cymru nesaf, Nia Morais, ei bod hi'n cwestiynu safbwynt yr Eisteddfod.

"Mae'r rhan fwyaf ohonom ni yn meddwl yn ddwyieithog, yn ysgrifennu yn ddwyieithog, yn siarad yn ddwyieithog, ac yn symud rhwng Cymraeg a Saesneg," meddai ar raglen Newyddion S4C.

"Mae hwnna yn rhan fawr o'n bywydau ni ac ma' Sage Todz 'di 'neud lot i ddiwylliant Cymraeg.

"Os dyna ffordd ma' fe'n mynegi ei hunan, dwi'm yn credu bod hawl gyda ni limitio hwnna."

Ychwanegodd Joe Healy, Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol 2022, fod "cerddoriaeth wastad wedi bod yn rywbeth i fi sydd yn ddrws i fewn i'r iaith".

"Mae'n anodd, fi dal yn teimlo'n conflicted achos fi'n teimlo i'r gynulleidfa," meddai.

"Mae'n siomedig iawn bo' ni ddim yn cael gweld e yn yr Eisteddfod. Ar yr ochr arall ti ddim yn gallu disgwyl i'r Eisteddfod Genedlaethol newid y rheol iaith i neb."