Gwynedd: 'Angen hyn i gael elfen o reolaeth ar y farchnad dai'
Bydd Cyngor Gwynedd yn trafod cynllun fyddai'n gwneud hi'n orfodol i gael caniatâd cynllunio cyn troi tŷ yn ail gartref neu lety gwyliau.
Petai'n cael ei gymeradwyo, dyma fyddai'r awdurdod cyntaf yng Nghymru i gyflwyno newidiadau cynllunio dan yr hyn sy'n cael ei adnabod fel Cyfarwyddyd Erthygl 4.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd, wrth BBC Cymru: "Mae gormod o ail gartrefi yn y sir yn bendant, ma' na bron iawn 8,000 ohonyn nhw, sef 11% o'n stoc dai ni sydd ddim ar gael drwy'r flwyddyn.
"Mae ganddon ni argyfwng tai yma yng Ngwynedd - mae 'na dros 3,500 o bobl yn disgwyl am dŷ cymdeithasol yng Ngwynedd.
"Mae 'na 150 o bobl yn dod yn ddigartref bob mis yn y sir.
"Y gobaith yw wrth roi terfyn ar y symudiad tuag at ail gartrefi. Falle welwn ni chydig o rheiny'n dod yn ôl i ddefnydd parhaol."
Ond gyda thwristiaeth yn cyfrannu thua £1bn i economi Gwynedd, mae rhai o fewn y sector ymwelwyr yn dweud bod angen i'r cyngor ystyried hynny - a chanolbwyntio mwy ar godi rhagor o gartrefi newydd.