Gwynedd: Gofyn am ganiatâd cynllunio i droi tŷ yn ail gartref

  • Cyhoeddwyd
Arwydd yn NefynFfynhonnell y llun, LDRS
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymchwil diweddar yn dangos bod 65% o boblogaeth Gwynedd ar gyfartaledd yn cael eu prisio allan o'r farchnad

Mae Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo cynllun fyddai'n gwneud hi'n orfodol i gael caniatâd cynllunio cyn troi tŷ yn ail gartref neu lety gwyliau.

Gyda bwriad i gynnal ymgynghoriad gyhoeddus ar y mesurau, dyma fyddai'r awdurdod cyntaf yng Nghymru i gyflwyno newidiadau cynllunio dan yr hyn sy'n cael ei adnabod fel Cyfarwyddyd Erthygl 4.

Roedd yr adroddiad yn galw ar y cabinet i ddechrau'r broses fyddai'n arwain at y newidiadau, ac mae'n rhan o ymdrechion i geisio rheoli effaith ail gartrefi ar gymunedau yng Ngwynedd.

Fyddai'r newid ddim yn cynnwys eiddo sydd o fewn ffiniau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

'3,500 yn disgwyl am dŷ cymdeithasol'

Y llynedd fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyfres o fesurau i daclo'r argyfwng tai.

Yng Ngwynedd - lle mae ymchwil diweddar yn dangos bod 65% o boblogaeth y sir ar gyfartaledd yn cael eu prisio allan o'r farchnad - mae perchnogion ail gartrefi yn barod yn talu premiwm o 150% ar ben eu treth cyngor.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl rhan o Wynedd, fel pentref Abersoch, yn cynnwys canran uchel o ail gartrefi

Mae yna hefyd reoliadau'n cyfyngu ar yr hawl i droi eiddo'n fusnes.

Hefyd ymhlith y mesurau roedd y newid i ddeddfwriaeth gynllunio, gan olygu y gallai Awdurdodau Cynllunio Lleol gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 i reoli'r defnydd o dai fel ail gartrefi neu lety gwyliau.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd, wrth BBC Cymru: "Mae ganddon ni argyfwng tai yma yng Ngwynedd - mae 'na dros 3,500 o bobl yn disgwyl am dŷ cymdeithasol yng Ngwynedd.

"Mae 'na 150 o bobl yn dod yn ddigartref bob sir yn y mis.

"Ar y llaw arall, mae 'na yn tynnu am 8,000 o'n stoc dai ni naill ai yn ail gartrefi neu'n dai gwyliau tymor byr.

Disgrifiad,

Dafydd Meurig: Gobaith y cyngor yw "rhoi elfen o reolaeth ar y farchnad"

"'Dan ni'n gobeithio bydd Cyfarwyddyd Erthygl Pedwar yn fodd i ni reoli hyn a dod â 'chydig bach o'r tai yna'n ôl i ddefnydd.

"Y gobaith ydy os bydd yn dod i rym, y bydd disgwyl i bobl sydd eisiau troi tŷ lle maen nhw'n byw ynddo fo drwy'r flwyddyn yn ail gartref neu'n lety gwyliau dros dro, y byddai'n rhaid iddyn nhw ofyn am ganiatâd cynllunio i wneud hynny.

"Mae hynny'n rhoi elfen o reolaeth ar y farchnad yna gan yr awdurdod cynllunio."

'Annheg braidd'

Mae gan gwmni Dioni fythynnod gwyliau ar draws Gwynedd, a nifer ohonyn nhw'n berchen i bobl leol.

Er nad ydy'r perchennog Gwion Llwyd yn credu y byddai'r newid yn gwneud llawer o wahaniaeth i'r busnes, mae'n gweld y bys yn cael ei bwyntio at dwristiaeth.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae gynnon ni lot i wneud fel diwydiant i wella," medd Gwion Llwyd

"Mae gynnon ni lot i wneud fel diwydiant i wella," meddai.

"Mae'n rhaid ni wneud mwy i warchod yr iaith Gymraeg, hybu'r iaith Gymraeg os fedra ni.

"Bod yn fwy cynaliadwy, gwneud yn siŵr bod o'n economi cylchol - bod pobl ddiarth sy'n dod i'r ardal yn prynu pethau'n fwy lleol.

"Ond i roi bai arnon ni o flaen diwydiannau eraill, dwi'n gweld hynny'n annheg braidd."

Codi mwy o dai

Gyda thwristiaeth yn cyfrannu thua £1bn i economi Gwynedd, mae eraill o fewn y sector ymwelwyr yn dweud bod angen i'r cyngor ystyried hynny - a chanolbwyntio mwy ar godi rhagor o gartrefi newydd.

Meddai Suzy Davies, Cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru: "Mae nifer o deuluoedd lleol sy'n dibynnu ar dwristiaeth ac sydd eisiau aros yng Ngwynedd, a chwilio am ffyrdd i wneud hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Suzy Davies yn pwysleisio'r angen i adeiladu mwy o dai

"Heb dwristiaeth, mae'n mynd i fod yn anodd i ddweud wrthyn nhw, dyna ydych chi'n mynd i allu wneud yn ei le.

"Mae pobl sy'n gweithio o fewn twristiaeth yn lleol, ac maen nhw'n gweld pam mae twristiaeth yn mynd yn ormod i unrhyw gymuned.

"Ond os ydyn ni'n edrych ar lle maen nhw'n mynd i fyw, er enghraifft, be' sy'n glir sydd ddim wedi digwydd yn ystod y dau ddegawd diwetha' yw mwy o dai newydd sy'n cael eu hadeiladu yn y cymunedau tebyg.

"Os ydyn ni'n mynd i ddelio gyda hynny, dy'n ni ddim yn gallu trafod be' sy'n becso cymunedau fel hyn heb drafod lle mae tai newydd yn dod o."

'Cymunedau dan warchae'

Ond yn ôl y Cynghorydd Dafydd Meurig, mae gan Gyngor Gwynedd gynlluniau pendant o ran codi cartrefi newydd.

"Mae ganddon ni gynllun gweithredu tai gwerth £77 miliwn, 33 o brosiectau anhygoel ar gyfer datblygu tai," meddai.

"Ond fedra ni ddim cystadlu yn erbyn bron i 8,000 o ail gartrefi a llety gwyliau yn y sir.

"Felly, ydy mae hynny'n ateb ond ateb rhannol a 'dan ni'n gwneud hynny'n barod."

Disgrifiad o’r llun,

"Cynta'n byd gorau'n byd mae'r pwerau 'ma yn cael eu defnyddio," medd Walis George

Tra bod ymgyrchwyr iaith o blaid unrhyw symud i'w gwneud hi'n haws i bobl fyw yn lleol, maen nhw am weld newidiadau ehangach.

Dywedodd Walis George o Gymdeithas yr Iaith: "Mae rhain yn bwerau mae mudiadau fel Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn galw amdanyn nhw ers blynyddoedd lawer.

"Felly yn amlwg mae hwn yn gam cynta' hynod o bwysig, a 'dan ni'n mawr obeithio bydd 'na fwy o awdurdodau cynllunio maes o law yn dilyn yr un trywydd oherwydd mae amser yn brin.

"Mae canlyniadau diweddar y Cyfrifiad yn dangos yn glir bod ein cymunedau Cymraeg ni dan warchae.

"Mae mewnlifo ac allfudo yn rhan bwysig o'r darlun yna, felly cynta'n byd gorau'n byd mae'r pwerau 'ma yn cael eu defnyddio."

Gyda Chyngor Gwynedd wedi cytuno i gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4, byddan nhw nawr yn ymgynghori gyda'r cyhoedd, a gallai unrhyw newid ddod i rym ymhen tua blwyddyn wedi hynny.

Pynciau cysylltiedig