Newid ffiniau: 'Does dim un plaid ar eu hennill'
Wedi blynyddoedd o drafod mae'r penderfyniad wedi ei wneud i leihau'r nifer o Aelodau Seneddol San Steffan yng Nghymru o 40 i 32.
Mae hyn yn golygu newidiadau mawr i rai ardaloedd o Gymru, yn enwedig efallai y rhannau mwyaf gwledig o'r wlad.
Ond sut fydd hyn yn effeithio ar etholwyr Cymru?
Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick, sy'n bwrw golwg dros beth mae'n ei olygu i'r pleidiau.