Beth mae newid y ffiniau etholaethol yn ei olygu i Gymru?
- Cyhoeddwyd
Wedi blynyddoedd o drafod mae'r penderfyniad wedi ei wneud i leihau'r nifer o Aelodau Seneddol San Steffan yng Nghymru o 40 i 32.
Mae hyn yn golygu newidiadau mawr i rai ardaloedd o Gymru, yn enwedig efallai y rhannau mwyaf gwledig o'r wlad.
Yr Etholiad Cyffredinol nesaf fydd y cyntaf i Gymru anfon 32 Aelod Seneddol i San Steffan ers etholiad 1865. Aeth hynny i fyny yn raddol dros y blynyddoedd, i 33, yna i 34 yn 1885, ac i 36 ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn 1997 roedd 40 Aelod Seneddol San Steffan yng Nghymru, ac mae'r niferoedd wedi aros yr un peth hyd heddiw.
Ond pam fod y newidiadau hyn yn digwydd? Ac sut fydd hyn yn effeithio ar etholwyr Cymru?
'Map etholiadol gwbl newydd'
Mae Dr. Ed Gareth Poole a Dr. James Griffiths yn gweithio yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ac yn arbenigwyr ar y system etholiadol yng Nghymru.
"Oni bai bod Prif Weinidog Prydain Rishi Sunak yn galw am etholiad yn yr wythnosau neu fisoedd nesaf, bydd yr Etholiad Cyffredinol nesaf yn cael ei chystadlu ar fap etholiadol cwbl newydd a fydd yn cael gwared o'r etholaethau presennol, gyda rhai ohonynt wedi bodoli ers degawdau," esboniai James Griffiths.
"Cafodd y map newydd hwn ei gyflwyno oherwydd cyfraith gan Lywodraeth y DU sy'n cyfartalu nifer yr etholwyr ym mron pob etholaeth yn y DU. Mae hyn yn rhoi'r disgresiwn blaenorol o'r neilltu a oedd yn caniatáu i rai etholaethau llai sy'n cynrychioli ardaloedd lleol diffiniedig, fel Arfon, i fodoli wrth ochr etholaethau mwy.
"Gyda nifer o'r etholaethau lleiaf poblog yn y Deyrnas Unedig, Cymru fydd y wlad fydd yn cael ei heffeithio fwyaf yn y wladwriaeth yn sgil y gyfraith newydd hon. Dim ond 32 AS fydd yn cael eu hanfon i San Steffan wedi'r etholiad nesaf, i lawr o 40 heddiw."
Fe wnaeth Arolwg Seneddol 2023 argymell y dylai pob etholaeth fod â dim llai na 69,724 o etholwyr Seneddol a dim mwy na 77,062.
O ran nifer o etholwyr, yr etholaeth fwyaf yw Canol a De Sir Benfro (76,820 o etholwyr) a'r lleiaf yw Ynys Môn (52,415 o etholwyr).
"O dan y cynlluniau diwygiedig ar gyfer Cymru, bydd nifer yr ASau yn y de-ddwyrain yn gostwng o 19 i 16, tra bod gogledd a gorllewin/de-orllewin ill dau yn gweld niferoedd yn gostwng o 10 i saith. Fel un o bedair sedd ynys warchodedig yn y gyfraith, Ynys Môn fydd yr unig etholaeth sydd heb ei newid."
Mae pedair ynys sydd yn cael eu hystyried fel 'etholaeth warchodedig' fydd ddim yn cael eu heffeithio gan y newidiadau; Ynys Môn, Ynys Wyth (sy'n cael dwy sedd) yn ne Lloegr, a dwy etholaeth yn ynysoedd Yr Alban; 'Na h-Eileanan an Iar' ac 'Orkney a Shetland'.
'Pob pleidlais yn gyfartal'
"Ar hyn o bryd, mae'n cymryd llai o bleidleisiau i ennill etholaethau sy'n llai poblog," meddai James, "felly mae Llywodraeth y DU yn dadlau bod y newidiadau i'r ffiniau yn sicrhau 'y bydd pob pleidlais sy'n cael ei bwrw mewn Etholiad Cyffredinol yn cario pwysau cyfartal'.
"Ond wrth gwrs gyda system bleidleisio cyntaf i'r felin fel sydd gennym ni mae modd dadlau fod pleidleisiau mewn etholiadau ymylol yn cyfrif am fwy beth bynnag. Felly fydd y ddadl hon ddim yn argyhoeddi pawb."
"Fe wnaeth gwleidyddion y Blaid Lafur a Phlaid Cymru ddwy brif ddadl i wrthwynebu'r cynlluniau.
"Y gyntaf oedd bod lleihau nifer yr ASau yn lleihau llais Cymru yn San Steffan. Pwrpas gwreiddiol cael etholaethau llai yng Nghymru (fesul poblogaeth) oedd ei fod yn gwella cynrychiolaeth Cymru drwy anfon mwy o ASau i San Steffan."
Yn dilyn datganoli fe ddaeth newidiadau i ardaloedd gwahanol o'r Deyrnas Unedig, meddai Dr. Griffiths: "Mae cefnogwyr y newidiadau'n cyfeirio at ddatganoli fel y llwybr ar gyfer cynrychiolaeth Gymreig - gan bwyntio at gynsail Yr Alban, a gollodd 13 AS yn dilyn sefydlu Senedd yr Alban yn 1999.
"Yr ail feirniadaeth yw bod llawer o'r etholaethau newydd yn enfawr yn ddaearyddol ac yn cynnwys ardaloedd sydd â hanes a blaenoriaethau gwahanol. Er enghraifft, bydd ardal Pontardawe yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cael ei uno ag ardaloedd gwledig i'r gogledd-ddwyrain yn sedd newydd Brycheiniog, Maesyfed a Chwm Tawe. Gall hyn danseilio gallu'r gwleidyddion i gyrraedd a chynrychioli'r etholwyr yn effeithiol."
"Mae'n bwysig nodi bod beirniadaethau tebyg wedi'u gwneud yn erbyn y cynigion i ddiwygio Senedd Cymru, a gefnogir gan Lafur a Phlaid Cymru, sy'n cynnig creu 16 etholaeth fyddai hyd yn oed yn fwy."
Sut mae'r newidiadau'n effeithio ar y pleidiau?
Bydd y newidiadau yma oll yn cael effaith ar lwyddiannau'r pleidiau mewn ardaloedd gwahanol, ac yn ôl Dr. Ed Poole mi fydd y pleidiau efallai'n targedu etholaethau newydd.
"Oherwydd bod gymaint o newidiadau (pob un ond un o'r 40 etholaeth yng Nghymru wedi newid) mae hi'n anodd ceisio darogan beth fydd y canlyniadau yn dilyn yr etholiad. Dydyn ni ddim yn gwybod sut bleidleisiodd pob ardal benodol o bob etholaeth newydd mewn etholiadau cyffredinol yn y gorffennol gan mai ar gyfer etholaethau cyfan y cyhoeddir canlyniadau.
"Ein canllaw gorau yw i edrych ar y pleidleisio ar lefel ward mewn etholiadau cyngor. Dydy hyn ddim yn berffaith, yn enwedig gan fod llai o bobl yn pleidleisio mewn etholiadau cyngor a mwy o ymgeiswyr annibynnol yn sefyll. Ond maen nhw'n rhoi syniadau cyffredinol i ni o'r hyn allai ddigwydd."
Dyma asesiad Dr. Poole o sut fydd y newidiadau'n effeithio ar y pleidiau yng Nghymru:
Y Blaid Lafur
"Er y bydd y gostyngiad yn ASau Cymru o 40 i 32 yn lleihau niferoedd cyffredinol y blaid yn San Steffan, mae'n debyg y bydd Llafur yn eitha' balch gyda'r map newydd mewn gwirionedd. Mae'r newidiadau i'r ffiniau'n annhebygol o danseilio goruchafiaeth Llafur yn y cymoedd a dinasoedd y de.
"Mae fersiwn terfynol y map wedi lliniaru sawl anghysondeb yn y ffiniau interim yn ardaloedd Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr - rhywbeth a ddylai blesio ASau presennol - ac nid oes yr un sedd Llafur dan fygythiad.
"Roedd y cynigion interim yn hollti sedd Pen-y-bont ar Ogwr (sedd y Ceidwadwyr) yn ddwy, ond mae'r cynigion terfynol yn rhoi llygedyn o obaith i'r Ceidwadwyr drwy gadw Porthcawl a Phen-y-bont ar Ogwr yn yr un etholaeth."
"Bydd sedd Bro Morgannwg yn colli Dinas Powys i Dde Caerdydd a Phenarth (sedd ddiogel Lafur) - sy'n golygu y bydd sedd Alun Cairns yn un o brif dargedau Llafur unwaith eto."
Plaid Cymru
"Bydd y gostyngiad sydyn yn nifer y seddi yn y gogledd a'r gorllewin yn gwneud Plaid Cymru'n anesmwyth ynghylch effaith y newidiadau ar eu pedair sedd bresennol.
"Dylai'r Blaid deimlo'n weddol hyderus ynglŷn â chadw Ceredigion Preseli; mae cynigion diweddaraf Y Comisiwn Ffiniau i Gymru yn golygu bod yr etholaeth newydd yn cynnwys ardaloedd a all fod yn agored i bleidleisio dros y blaid - wardiau gogledd Penfro fel Crymych a Maenclochog."
"Mae Dwyfor Meirionnydd yn ychwanegu Caernarfon a'r Felinheli i'r etholaeth ac felly yn dod yn sedd gadarn i'r Blaid. Yn y de-orllewin, fodd bynnag, mae sedd Simon Hart wedi'i rannu'n ddwy - y rhan ddwyreiniol ohoni'n cael ei hychwanegu at sedd newydd Caerfyrddin sy'n gorchuddio holl ogledd Sir Gaerfyrddin.
"Felly mae'n argoeli i fod yn frwydr teirffordd yma yn yr etholiad nesaf, gan y bydd Plaid yn wynebu cystadleuaeth newydd gan y Ceidwadwyr yn ardal Hendy-gwyn ar Daf a Llafur yn nhref Caerfyrddin."
Y Ceidwadwyr
"Os yw'r polau piniwn presennol yn ganllaw, mae'r map newydd yn golygu y bydd y Ceidwadwyr yn cael trafferth cadw llawer o'u seddi y flwyddyn nesaf. Ymysg y seddi y mae'r Ceidwadwyr yn ei ddal ar hyn o bryd mae Canolbarth a De Sir Benfro, Sir Fynwy, a Maldwyn a Glyndŵr.
"Ond mae'r rhain i gyd yn cynnwys ardaloedd newydd sy'n ffafriol i Lafur, fel Rhiwabon, ac mae Chil-y-coed (ble mae Llafur yn dal pob un o'r pum ward ar y cyngor sir) yn cael ei ychwanegu at sedd David TC Davies, Mynwy."
"Mae'r gogledd - lle enillodd y Ceidwadwyr chwe sedd yn 2019 - wedi newid yn llwyr wrth i'r Comisiwn Ffiniau ychwanegu Bangor at Landudno ('Bangor Aberconwy'), Llangollen i Brestatyn ('Dwyrain Clwyd'), a Dinbych i Fae Colwyn ('Gogledd Clwyd'). Dylid disgwyl i'r seddi hyn ddilyn ffawd y Torïaid yn y 'wal goch' yn ngogledd Lloegr.
"Bydd y Ceidwadwyr yn hapus fod Porthcawl bellach yn dod yn rhan o etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr, sedd maent wedi ei ddal ers 2019."
Y Democratiaid Rhyddfrydol
"Mae'n debyg mai ym Mrycheiniog, Maesyfed a Chwm-tawe y mae gobaith gorau'r blaid - mae'r rhan fwyaf o'r sedd hon yn rhan o ardal buddugoliaeth Jane Dodds yn is-etholiad 2019, cyn iddi gael ei chipio gan Fay Jones a'r Ceidwadwyr yn yr Etholiad Cyffredinol a ddilynodd.
"Mae Cwm-tawe'n cynnwys ardaloedd fydd yn dalcen caled i'r Ceidwadwyr. Er bod Pontardawe yn ardal Llafur-Plaid, efallai y bydd pleidleisio tactegol trwm o gymorth i'r Democratiaid Rhyddfrydol - fel y mae wedi gwneud i fyny'r ffordd yn Ystradgynlais."
Felly, o edrych ar y newidiadau fydd gerbron dinasyddion Cymru yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf yw Dr. Ed Poole yn rhagweld canlyniadau chwyldroadol yng Nghymru?
"Yn y pen draw, bydd yr etholiad nesaf yng Nghymru yn cael ei chynnal o dan amgylchiadau cwbl newydd, ond mae mantais clir presennol Llafur yn y polau piniwn yn San Steffan yn awgrymu y byddwn yn debygol o gael canlyniad cyfarwydd.
"Mae Llafur wedi ennill pob etholiad yng Nghymru ers 1922, a waeth beth fo newidiadau'r ffiniau, mae'n ymddangos ei fod yn annhebygol o newid yn y dyfodol agos."
Hefyd o ddiddordeb:
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2023