Cymru yn y Swistir: 'Rhedeg, rhedeg, a mwy o redeg'

Mae carfan rygbi Cymru yn y Swistir yn cwblhau pythefnos o hyfforddi y mae'r mwyafrif wedi eu hofni ers misoedd.

Mae'r ardal yn nefoedd i'r twristiaid sy'n crwydro'r mynyddoedd gwyrdd peraidd, ond yn hunllef i ddeugain a mwy o athletwyr proffesiynol.

Wedi i'r garfan ddychwelyd adref am 10 diwrnod, fe fyddan nhw'n teithio i Dwrci i baratoi ar gyfer y gemau paratoadol yn erbyn Lloegr a De Affrica.

Gareth Rhys Owen fu'n holi'r prop Gareth Thomas, y bachwr Ryan Elias a'r blaenasgellwr Jac Morgan am y profiad yn y Swistir.