Cip ar baratoadau 'afiach' tîm Cymru cyn Cwpan y Byd
- Cyhoeddwyd
Mae Gareth Anscombe ar ei bedwar yn ceisio peidio chwydu, Dewi Lake yn dyfrio fel tase fe newydd gamu allan o'r gawod, tra bo'r bachwr Ryan Elias yn cerdded yn simsan ataf yng ngwres llethol yr Alpau.
Mae'r geiriau cynta' y mae Elias yn ynganu yn adrodd cyfrolau.
"Afiach!"
Mae'r chwaraewyr yn cwblhau'r wythnos gyntaf o ddwy mae'r mwyafrif wedi eu hofni ers misoedd - pythefnos yn llonyddwch hafaidd y Swistir.
Nefoedd i'r twristiaid sy'n crwydro'r mynyddoedd gwyrdd peraidd, hunlle' i ddeugain a mwy o athletwyr proffesiynol.
"Mae [Ryan] yn iawn fan 'na," medd y blaenasgellwr ifanc Jac Morgan. "Mae e'n eitha' afiach, mae'n galed ond mae'r bois yn gweithio'n galed mas 'ma, a ma' nhw'n rhoi her i ni."
Dyma ymweliad cyntaf Jac Morgan â phentref Fiesch yn ne'r Swistir, ond roedd e a'r prop ifanc Kemsley Mathias wedi eu rhybuddio o'r her arswydus oedd yn eu hwynebu nhw dros y bythefnos.
Mae Mathias yn rhannu ystafell gydag Elias, a thra bod y bachwr profiadol yn medru cynnig geiriau o gymorth yng nghyd-destun rygbi, mae Elias yn cydnabod mai fe sy'n elwa mwya' o'r bartneriaeth, gyda Mathias yn rhoi gwersi astrolegol iddo wrth i'r ddau syllu at y sêr wrth iddi nosi ar frig mynydd Fiescheralp.
Ac mae'r chwaraewyr 2,300 metr yn agosach i'r sêr mawr yn eu gwesty ar gopa'r mynydd.
Mae un cipolwg ar lwyddiannau athletwyr o Kenya neu feicwyr o Colombia yn hyrwyddo gwerth ymarfer ar ucheledd (altitude), a dyna yn ei hanfod yw pwrpas y daith i'r Swistir.
Mae'r chwaraewyr yn bwyta a chysgu ar gopa'r mynydd sydd 2,300m uwchlaw'r môr, ac yn ymarfer ym mhentref Fiesch sydd dros 1,000m yn is.
"Byw yn uchel, hyfforddi yn isel," yw mantra pennaeth ffitrwydd y tîm, Huw Bennett.
Mae'r cyn-fachwr rhyngwladol yn ymddangos mor ffit a chyhyrog â'i chwaraewyr, ac wedi iddo dreulio chwarter awr yn esbonio'r theori gwyddonol mae'r esboniad yn syml.
Mae hyfforddi yn is yn galluogi'r chwaraewyr i wneud mwy o waith, tra bo'r manteision biolegol o fod ar uchder yn digwydd o fyw a bod yno.
'Nôl ar y cae ymarfer mae'r straen yn amlwg ar wynebau ac osgo'r chwaraewyr.
Wrth i'r sesiwn ddirwyn i ben mae nifer o'r chwaraewyr mwyaf athletaidd yn ei chael hi'n anodd rhoi un droed o flaen y llall, wrth iddyn nhw chwarae gêm gyffwrdd yn haul crasboeth y prynhawn.
Mae Elias yn grediniol fod y sesiynau o fudd, a'u bod nhw eisoes yn teimlo'n gryfach ac yn fwy ffit wedi wythnos oddi cartref.
Wedi i'r garfan ddychwelyd adref am 10 diwrnod, fe fyddan nhw'n teithio i Dwrci i baratoi ar gyfer y gemau paratoadol yn erbyn Lloegr a De Affrica.
Mae Bennett yn cydnabod na fydd y chwaraewyr yn cael seibiant digonol cyn y gemau, a fydd heb os yn effeithio ar y perfformiad.
Y gwirionedd yw mai gêm agoriadol Cwpan y Byd yn erbyn Fiji yn Bordeaux ddechrau Medi yw'r unig un sydd ar feddyliau'r chwaraewyr a hyfforddwyr.
Bydd y gemau cyfeillgar yn cael eu colli i ebargofiant. Yr hen ystrydeb yw y bydd y sesiynau ymarfer hefyd yn diflannu o'r isymwybod.
Ond dwi'n amau a fydd hynny'n wir am y bythefnos yma yn Y Swistir. Prin yw'r rhai sy'n anghofio'r pethau afiach mewn bywyd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2023