Adroddiad Gofal: 'Ymateb llugoer y llywodraeth yn warthus'
Mae AS yn dweud fod "cyfle wedi ei golli" ac mae pobl ifanc wedi eu "gadael i lawr" gan ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad sy'n argymell diwygiadau radical i'r system ofal.
Roedd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi edrych ar ailwampio gwasanaethau y system ofal - cyn bod plant yn mynd i ofal, yn ystod y cyfnod, ac ar ôl gadael.
Roedd 27 o argymhellion wedi eu cyflwyno a rhai yn "ddiwygiadau radical", gan gynnwys creu cyfraith ble byddai dyletswydd ar gynghorau i nodi uchafswm diogel o achosion i weithwyr cymdeithasol sy'n delio gyda phlant.
Ond o'r argymhellion hynny, dim ond pump sydd wedi'u derbyn, mae saith wedi'u gwrthod a 15 wedi'u derbyn yn rhannol.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru dywedodd Sioned Williams AS, sef un o awduron yr adroddiad, fod ymateb "llugoer" Llywodraeth Cymru yn "warthus".
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod eisoes wedi ymrwymo i ddiwygio gwasanaethau a'i bod wedi llofnodi datganiad sydd wedi ei greu gan bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal i ddarparu'r cymorth gorau.