Ymateb llywodraeth i adroddiad gofal yn 'siomedig'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Sioned Williams fod ymateb "llugoer" Llywodraeth Cymru yn "warthus"

Mae pobl ifanc mewn gofal yn dweud eu bod yn "siomedig" ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei hymateb i adroddiad sy'n argymell diwygiadau radical i'r system ofal.

Yn ôl un o awduron yr adroddiad, Sioned Williams AS, mae "cyfle wedi ei golli" ac mae pobl ifanc wedi eu "gadael i lawr".

Bydd adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cael ei drafod yn y Senedd yn ddiweddarach.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod eisoes wedi ymrwymo i ddiwygio gwasanaethau a'i bod wedi llofnodi datganiad sydd wedi ei greu gan bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal i ddarparu'r cymorth gorau.

Mae Rhian Thomas, 22 o Sir Gaerfyrddin, wedi byw gyda theuluoedd maeth ers yn chwech oed ar ôl cael ei cham-drin a'i hesgeuluso gan ei theulu.

Fe gafodd ei symud o un lle i'r llall, ac wedi ei phrofiadau fe drodd at gyffuriau ac alcohol.

Mae Rhian yn dal i deimlo'r effaith o fod yn rhan o'r system ofal ac mae'n parhau'n ddigartref.

"O'n i wedi gadael y care system pan oeddwn i'n 18 a fi'n 22 nawr a dal yn homeless.

"Mae'n galed i fi, achos dwi ddim yn cael cymorth o fy mam a'n nhad fel mae'r bobl y tu allan i'r system yn cael," meddai.

27 o argymhellion

Roedd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi edrych ar ailwampio gwasanaethau y system ofal - cyn bod plant yn mynd i ofal, yn ystod y cyfnod, ac ar ôl gadael.

Roedd 27 o argymhellion wedi eu cyflwyno a rhai yn "ddiwygiadau radical", gan gynnwys creu cyfraith ble byddai dyletswydd ar gynghorau i nodi uchafswm diogel o achosion i weithwyr cymdeithasol sy'n delio gyda phlant.

Ond o'r 27 argymhelliad, dim ond pump sydd wedi'u derbyn, mae saith wedi'u gwrthod a 15 wedi'u derbyn yn rhannol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhian Thomas ymhlith y rhai sy'n dymuno i Lywodraeth Cymru weithredu mwy o argymhellion y pwyllgor

Mae Rhian yn teimlo'n anfodlon gydag ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad.

"Mae'n siomedig achos ma'r Welsh Government wedi derbyn pump o'r 27 recommendation. Mae'n siomedig hefyd achos ma' nhw wedi gwrando ond 'dyn nhw ddim wedi newid digon.

"Rwy'n credu bod newid y law yn gallu gwneud bywydau plant ifanc fel fi sy'n mynd drwy'r care system yn haws," ychwanegodd.

'Dyma rhai o bobl ifanc mwyaf bregus ein cymdeithas'

Mae Sioned Williams, AS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, wedi gweithio ar yr adroddiad ac mae'n llefarydd y blaid dros gyfiawnder cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol.

Mae hi'n teimlo'n "hynod o siomedig" hefyd.

"Dwi yn teimlo, wrth wrthod gymaint o'r argymhellion, bod y llywodraeth yn gadael y bobl ifanc yma i lawr ac wrth gwrs y rhai yn y dyfodol a fydd yn wynebu yr un math o sefyllfa," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Rhian Thomas gyda'i chi, Suki

"Dyma rhai o bobl ifanc mwyaf bregus ein cymdeithas. 'Dyn nhw ddim yn gallu troi at rieni am gymorth fel nifer fawr ohonon ni.

"Ma' nhw wedi profi nifer o brofiadau anodd iawn yn ifanc iawn - mae dyletswydd arnon ni i edrych ar eu hôl nhw.

"Yn anffodus 'dyn nhw ddim yn meddwl bod y syniadau uchelgeisiol 'dan ni wedi rhoi gerbron yn rhai maen nhw'n medru gweithredu.

"O ran y 12 argymhelliad yna oedd gyda ni, oedd yn dangos sut i weithredu diwygiadau radical, dim ond dau sy'n cael eu derbyn. Dwi'n meddwl bo hynny'n ddamniol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi derbyn, neu wedi derbyn yn rhannol, 20 o argymhellion.

"Rydym eisoes wedi dechrau gweithio yn y meysydd hynny lle nad ydyn wedi derbyn yr argymhellion."