Sut mae cynyddu faint sy'n cael ei ailgylchu yng Nghymru?
Dyw casglu plastig o'n hafonydd, moroedd a'n strydoedd ni ddim yn ddigon -mae angen mynd gam ymhellach.
Dyna farn arbenigwr sy'n dechrau prosiect i bobl droi gwastraff plastig yn gynnyrch newydd i'r cartref.
Mae Eifion Williams, prif weithredwr Cymunedau Cylchol Cymru, dolen allanol yn paratoi i ddechrau'r prosiect newydd mewn dwy ardal yng Nghymru.
Fe fydd cynllun Trysori Plastig yn dechrau yn Nhreherbert yn y Rhondda ac ym Mae Colwyn yn ystod yr haf.
Mae arbenigwyr fel Dr Gary Walpole, cyfarwyddwr Cymunedau Cylchol Cymru yn dweud y bydd rhaid i bawb ail-ddefnyddio ac ail-greu nwyddau yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i wneud mwy ac yn dweud y byddan nhw'n cyflwyno rheoliadau ailgylchu yn y gweithle yn fuan.