Taclo 'rhan olaf y jig-so ailgylchu' - plastig

Disgrifiad,

Sut mae cynyddu faint sy'n cael ei ailgylchu yng Nghymru?

  • Cyhoeddwyd

Dyw casglu plastig o’n hafonydd, moroedd a’n strydoedd ni ddim yn ddigon -mae angen mynd gam ymhellach.

Dyna farn arbenigwr sy'n dechrau prosiect i bobl droi gwastraff plastig yn gynnyrch newydd i'r cartref.

Mae Eifion Williams, Prif Weithredwr Cymunedau Cylchol Cymru,, dolen allanol yn paratoi i ddechrau'r prosiect newydd mewn dwy ardal yng Nghymru.

Fe fydd cynllun Trysori Plastig yn dechrau yn Nhreherbert yn y Rhondda ac ym Mae Colwyn yn ystod yr haf.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i wneud mwy ac yn dweud y byddan nhw'n cyflwyno rheoliadau ailgylchu yn y gweithle yn fuan.

Rhan o'r jig-so ar goll

Mae dros 600 o brosiectau o’r fath ledled y byd.

Y nod ymhen dwy flynedd yw sefydlu canolfannau tebyg ar hyd a lled Cymru fel bod tua 10 neu 12 o gymunedau â’r cyfleuster yma. 

Y gobaith yw y gallai taclo gwastraff plastig helpu Cymru i gwrdd â thargedau ailgylchu uchelgeisiol sydd wedi eu gosod, sef ailgylchu 70% o’n gwastraff erbyn 2024-25.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf rydyn ni'n ailgylchu ychydig dros 65% ar hyn o bryd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Treherbert yn un o ddau leoliad lle bydd prosiect Trysori Plastig yn dechrau dros yr haf

Dywedodd Mr Williams: “Rydan ni wedi gneud llawer yng Nghymru i ailgylchu yn ein cartrefi ni ond mae ‘na broblem. Mae ‘na ran o’r jig-so o’r cynllun mawr ar goll yma a hwnna ydy plastig.

"Mae ‘na saith gwahanol polymer, mathau gwahanol o blastig os liciwch chi, a’r broblem ydy os oes ‘na ffatri yn rhywle yn cyfuno’r saith mae’n eithriadol o anodd ac eithriadol o ddrud i wahanu nhw eto ac i wneud y cynnyrch newydd, felly mae’n rhaid i ni ffeindio proses o gadw y polymers yma arwahan.

"Dyna beth sydd wrth wraidd prosiect Trysori Plastig Cymru, achos ‘da ni’n rhoi yn dwylo’r bobl y modd i gadw’r saith polymer ar wahan."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Eifion Williams bydd gwahanu gwahanol fathau o blastig yn rhoi mwy o ddewis o ran eu hail-ddefnyddio

Trwy barhau i wahanu y gwahanol fathau o blastig fe fydd mwy o ddewis wedyn ynglŷn â beth i'w wneud â’r deunydd, gan fod pob un polymer yn gweddu gwahanol fathau o gynnyrch.

Mae Cymru ar hyn o bryd yn drydydd yn y byd o ran lefelau ailgylchu, ond mae arbenigwyr yn poeni y bydd y blynyddoedd nesaf yn heriol wrth geisio cyrraedd targed o Gymru ddi-wastraff.

“Da ni wedi cyrraedd rhyw fath o plateau”, yn ôl Mr Williams, “ac un o’r pethau mawr yw be' sy'n cael ei alw yn "y broblem plastig", mae’n moroedd a’n afonydd yn llawn o’r pethau yma.

"Os fedrwn ni wahanu y gwahanol polymers yn ein cymunedau fe fyddwn ni wedi cymryd y cam ola’ o gyrraedd y nod rhyngwladol o ailgylchu, achos da ni'n stuck ar y 66, 67%.

"Mi fedrwn ni fynd ymhellach ‘na hynny.”

Trwsio yn hytrach na thaflu

Mae arbenigwyr fel Dr Gary Walpole, cyfarwyddwr Cymunedau Cylchol Cymru yn dweud y bydd rhaid i bawb ail-ddefnyddio ac ail-greu nwyddau yn y dyfodol.

“Er mwyn i Gymru symud lan o 65% wrth ailgylchu mae’n rhaid i ni newid pethe tipyn bach oherwydd mae 35% [o wastraff] ar hyn o bryd yn mynd i gael ei losgi er mwyn cynhyrchu ynni.”

Mae mesurau newydd yn cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru yn yr Hydref.

Dywedodd llefarydd eu bod "yn cydnabod yn llawn yr angen i wneud mwy ac fe fyddwn cyn hir yn cyflwyno rheoliadau newydd yn y gweithle, gwaharddiad ar blastig untro ac yn ehangu cyfrifoldeb cynhyrchwyr”.

Disgrifiad o’r llun,

Yng nghanolfan ailgylchu Nantycaws mae nwyddau'n cael eu trwsio a’u hail werthu

Yn ôl Dr Walpole does dim angen taflu gwastraff, gan sôn am gynlluniau fel pentre “Eto” yng nghanolfan ailgylchu Nantycaws ger Caerfyrddin - lle mae nwyddau'n cael eu trwsio a’u gwerthu.

“Fe allwn ni drwsio pethe – o gelfi i feicie i white goods sydd yn y tŷ, ond hefyd mae eisiau cynhyrchwyr newid sut mae nhw’n 'neud pethe er mwyn gallu trwsio nhw’n llawer hawsach.

"Er enghraifft y spot welds – alli di ddim tynnu rhwbeth allan a trwsio fe os ydy wedi cael ei spot weldio, felly mae angen symud 'nôl i ddefnyddio screws a gallwn ni ail-neud pethe wedyn.”

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fe fydd yr economi gylchol yn “creu cyfleon i gymunedau ddod at ei gilydd i helpu symud ymlaen at ddiwylliant o ail-ddefnyddio a thrwsio”.

'Cael bywyd arall mas o bethe'

Wrth edrych i’r dyfodol mae angen addysgu pobl yn well am bwysigrwydd ailgylchu, yn ôl Mari Arthur sy'n arbenigo mewn cynaladwyedd gyda chwmni Afallen.

Mae addysg yn bwysig ochr yn ochr â’r economi gylchol ynghyd â chanolbwyntio ar newid y diwylliant. 

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid i bawb newid y ffordd o fyw a gweithio er mwyn ymateb i'r sialens, yn ôl Mari Arthur

Mae hi'n cyfaddef ei fod yn dipyn o sialens ond yn dweud bod rhaid i bawb newid y ffordd o fyw a gweithio.

“Bob tro ti’n rhoi rhywbeth yn y sbwriel mae dal yn mynd rhywle – mae ishe trio ail ddefnyddio fe", meddai.

"Cyn chi’n ailgylchu mae angen trio defnyddio fe mwy o weithie i gael bywyd arall mas o pethe achos ‘na beth yw economi gylchol - rhoi mwy o fywyd mewn i unrhyw beth ti wedi prynu.

"Mae cyfle i 'neud arian mas o’r byd economi gylchol ond mae mwy iddo fe na hynny, mae e yn ffordd o 'neud ein planed yn fwy gwyrdd i genedlaethau sy' i ddod.”

Pynciau cysylltiedig