Lansio adnodd VR newydd i addysgu am ddiogelwch fferm
Ddydd Mercher cafodd adnodd VR (realiti rhithwir) newydd ar ddiogelwch fferm ei lansio yn y Sioe Fawr.
Bwriad yr ap dwyieithog arloesol 'Fferm Ddiogel', a gafodd ei greu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yw addysgu pobl sut i adnabod peryglon a lleihau risgiau wrth weithio ar ffermydd.
Mae'r ap wedi'i greu er mwyn cefnogi darlithwyr amaeth ac mae'n gosod y defnyddiwr mewn sefyllfaoedd gwahanol o'r byd go iawn.
Dywedodd Lisa O'Connor, rheolwr academaidd addysg bellach yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: "Rydym yn hynod falch o fod yn lansio'r adnodd arloesol hwn fydd wir yn gwneud gwahaniaeth i ddiogelwch fferm.
"Mae addysg yn allweddol i newid, ac mae cael adnoddau digidol Cymraeg a dwyieithog yn y sector yn hollbwysig i baratoi dysgwyr at y byd gwaith."
Mae Rhys Lewis o Fachynlleth yn defnyddio cadair olwyn wedi iddo dorri ei gefn mewn damwain fferm.
"Mae'r adnodd newydd yma yn arloesol ac rwy'n ei groesawu'n fawr," dywedodd.
"Rydym yn clywed yn rhy aml am ddamweiniau yn digwydd ar y fferm ac mae'n rhaid i hyn newid, drwy addysg, er mwyn sicrhau diogelwch ein ffermwyr."