Cofio un o gewri rygbi Cymru, Clive Rowlands
Mae Clive Rowlands, un o'r ffigyrau mwyaf dylanwadol yn hanes rygbi yng Nghymru, wedi marw yn 85 oed.
Ef oedd yr unig ddyn i fod yn gapten, yn hyfforddwr ac yn rheolwr ar dîm Cymru.
Bu hefyd yn llywydd Undeb Rygbi Cymru yn 1989, ac yn yr un flwyddyn roedd yn rheolwr y Llewod ar eu taith i Awstralia.
Lowri Roberts sy'n edrych yn ôl ar fywyd y dyn o Gwmtwrch Uchaf.