Clive Rowlands, cyn-gapten a rheolwr rygbi Cymru, wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae Clive Rowlands, un o'r ffigyrau mwyaf dylanwadol yn hanes rygbi yng Nghymru, wedi marw yn 85 oed.
Ef oedd yr unig ddyn i fod yn gapten, yn hyfforddwr ac yn rheolwr ar dîm Cymru.
Bu hefyd yn llywydd Undeb Rygbi Cymru yn 1989, ac yn yr un flwyddyn roedd yn rheolwr y Llewod ar eu taith i Awstralia.
Fe wnaeth oroesi canser yn y 1990au cynnar, ac yn ddiweddarach fe gododd lawer o arian i elusennau canser.
Newid rheol
Yn gymeriad allblyg, siaradus a brwdfrydig, y mewnwr talentog oedd capten Cymru ar bob un o'r 14 gêm a chwaraeodd i'w wlad.
Daeth ei gap cyntaf yn erbyn Lloegr yn 1963 - cyfnod cyn i dimau rhyngwladol gael hyfforddwyr, a'r capteiniaid oedd yng ngofal tactegau ar y maes.
Yn yr un flwyddyn yn erbyn Yr Alban yn Murrayfield, roedd cicio Rowlands yn allweddol mewn gêm agos.
Enillodd Cymru o 6-0, ond o ganlyniad i dactegau cicio Rowlands fe newidiwyd rheolau'r gêm maes o law i atal timau rhag cicio dros yr ystlys o du allan i'w llinell 22m eu hunain.
Cipiodd Cymru y Goron Driphlyg yn 1965 gyda Rowlands wrth y llyw, ond fe gollon nhw'r Gamp Lawn wrth golli 22-13 i Ffrainc ym Mharis - gêm olaf Rowlands i Gymru. Yn 1965 fe gafodd ei ddewis fel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru.
Wedi iddo ymddeol fel chwaraewr, daeth yn hyfforddwr ar Gymru yn 1968 gan eu harwain i Bencampwriaeth y Pum Gwlad yn y flwyddyn ganlynol.
Hyfforddwr a rheolwr hynod lwyddiannus
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, enillodd Cymru y Gamp Lawn gyda'r asgellwr Gerald Davies yn sgorio pum cais yn y gystadleuaeth.
Yn ei hunangofiant - 'Top Cat' - mae Rowlands yn dwyn i gof sut y bu'n rhaid iddo berswadio Davies i symud i chwarae ar yr asgell oherwydd anaf i'r dewis cyntaf ar y pryd, Stuart Watkins.
Mae Gerald Davies yn dal i gael ei ystyried fel un o'r asgellwyr gorau i chwarae rygbi erioed.
Bu Rowlands yn hyfforddwr ar Gymru mewn 29 o gemau rhwng 1968-1974 gan ennill 18 ohonyn nhw.
Yn ddiweddarach bu'n rheolwr ar Gymru yng nghystadleuaeth gyntaf Cwpan Rygbi'r Byd yn 1987 - lle gorffennodd Cymru yn drydydd - ac yn rheolwr ar daith fuddugol y Llewod i Awstralia yn 1989.
Bu hefyd yn llywydd Undeb Rygbi Cymru yn 1989-90 mewn cyfnod cythryblus yn y gêm.
Dyn 'arbennig'
Dywedodd un o fawrion rygbi Cymru, Syr Gareth Edwards, bod Rowlands yn "gymeriad arbennig fydd yn cael ei gofio am byth".
"Roedd yn hyfforddwr, rheolwr, llywydd arbennig. Mae wedi gwneud popeth dros rygbi Cymru."
Soniodd bod Rowlands wedi chwarae rhan bwysig yn nyddiau cynnar ei yrfa - wrth i Edwards ennill ei le yn y tîm cenedlaethol erbyn i Rowlands fod yn hyfforddwr.
"Roedd hyd yn oed y rhai oedd ddim yn siarad Cymraeg yn y tîm yn gwybod beth oedd 'calon' oherwydd dyna oedd hoff emosiwn Clive cyn gêm.
"Roedd yn gwneud i chi feddwl llawer iawn."
Cymro i'r carn
Un arall i gofio Clive Rowlands oedd maswr Cymru a'r Llewod, Barry John.
"Mae gan rygbi Cymru, ac Undeb Rygbi Cymru yn benodol, ddyled fawr iddo am ei gyfraniad enfawr i'r gêm fel chwaraewr, hyfforddwr a gweinyddwr."
"Pan oedd yn cerdded mewn i'r stafell newid cyn gêm doedd e ddim yn siarad am beth fydden ni'n 'neud a sut i chwarae. Roedd y sgwrs i gyd am fod yn Gymry.
"Doedd e ddim yn gor-ddweud e, ond dwi'n cofio bod yn Twickenham ar gyfer gêm yn erbyn Lloegr a dywedodd wrthon ni bod y gêm mor bwysig bod 'hyd yn oed y cŵn yn cyfarth yn Gymraeg'.
"Roedd ganddo'r gred bod ei dîm allan ar y cae i gyd yn gwybod pa mor lwcus oedden nhw i gael chwarae dros Gymru.
"Yn ei lygaid e, roedd 15 o Gymry yn well nag unrhyw wrthwynebydd."
Roedd yn eiriol dros yr iaith Gymraeg hyd ei oes, ac yn sylwebydd craff a chyson ar faterion rygbi ar radio a theledu yng Nghymru.
Roedd yn athro wrth ei alwedigaeth, ond roedd hefyd yn berchen ar siop chwaraeon yn Ystalyfera. Chwaraeodd fel mewnwr i Abercraf, Pont-y-pŵl, Llanelli ac Abertawe.
Er ei lwyddiant ac enwogrwydd mawr, roedd calon Clive Rowlands yn ei bentref genedigol, Cwm-twrch Uchaf yng Nghwm Tawe, a bu'n byw yno tan ei farwolaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru: "Mae Undeb Rygbi Cymru yn anfon y cydymdeimlad mwyaf diffuant wrth bawb sy'n ymwneud â'r gêm yng Nghymru i deulu a ffrindiau Clive ac rydym yn diolch iddo am ei gyfraniad aruthrol i ein gêm."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2017