Arweinydd Plaid Cymru ddim am osod amserlen ar annibyniaeth
Ni fydd Plaid Cymru yn addo amserlen ar gyfer refferendwm ar annibyniaeth, meddai eu harweinydd newydd Rhun ap Iorwerth.
Dywedodd Mr ap Iorwerth mewn cyfweliad gyda'r BBC, ei fod eisiau i'r blaid wneud yr achos dros annibyniaeth i bob math o bobl - gan gynnwys rhai oedd newydd symud i Gymru o Loegr.
"Mae [annibyniaeth] yn rhywbeth dwi'n gwbl grediniol sydd ei angen yn ymarferol er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i Gymru," meddai'r Aelod Senedd dros Ynys Môn.
"Ond siwrne ydy hi, a dwi eisiau dod â phobl efo ni ar siwrne tuag annibyniaeth."