Pontypridd: 'Fyddai Eisteddfod am ddim mor bositif'

Tra fod y rhan fwyaf o'r sylw ar y Brifwyl ym Moduan yr wythnos hon, mae un Aelod o'r Senedd a chyn-gynghorydd sir dros dref Pontypridd yn galw ar drefnwyr i "ystyried opsiynau" ar gyfer maes am ddim y flwyddyn nesaf, fel y bu ym Mae Caerdydd yn 2018.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru fe ddywedodd Heledd Fychan, llefarydd Plaid Cymru dros y Gymraeg: "Dyma'r tro cyntaf i'r ardal weld Eisteddfod ers 1956, mae hi'n ardal lle 'da ni angen gweld twf yn y Gymraeg os ydan ni'n mynd i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr.

"Pa well cyfle? Cael Eisteddfod yng nghanol bwrlwm tref brysur, cael maes sy'n defnyddio'r parc ond hefyd adeiladau yn y dref, mi fyddai'n gallu bod mor, mor bositif i'r Gymraeg."