Eisteddfod 2024: Galw am fynediad am ddim i'r maes

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Eisteddfod 2024: Galw am Eisteddfod am ddim ym Mhontypridd

Mi all methiant i gynnig Eisteddfod am ddim ym Mhontypridd yn 2024 "wneud niwed mawr i'r Gymraeg yn yr ardal".

Dyna farn Aelod o'r Senedd lleol yn dilyn y cyhoeddiad mai Parc Ynysangharad y dref fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn nesaf.

Yn ôl y trefnwyr, y bwriad yw defnyddio Parc Ynysangharad a rhannau o dref Pontypridd gan greu "Eisteddfod drefol, amgen a chyffrous, sy'n cyfuno'r ardal leol gyda'r ŵyl ei hun".

Ond tra fod y rhan fwyaf o'r sylw ar y Brifwyl ym Moduan yr wythnos hon, mae un AS a chyn-gynghorydd sir dros dref Pontypridd yn galw ar drefnwyr i "ystyried opsiynau" ar gyfer cael maes di-dâl, fel y bu ym Mae Caerdydd yn 2018.

'Dysgu gwersi o 2018'

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru fe ddywedodd Heledd Fychan, AS dros Ganol De Cymru a llefarydd Plaid Cymru dros y Gymraeg: "Dyma'r tro cyntaf i'r ardal weld Eisteddfod ers 1956, mae hi'n ardal lle 'da ni angen gweld twf yn y Gymraeg os ydan ni'n mynd i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd arwydd ei ddadorchuddio ym Mharc Ynysangharad ddydd Llun yn ei nodi fel cartref Eisteddfod 2024

"Pa well cyfle? Cael Eisteddfod yng nghanol bwrlwm tref brysur, cael maes amgen sy'n defnyddio'r parc ond hefyd adeiladau yn y dref, mi fyddai'n gallu bod mor, mor bositif i'r Gymraeg."

Fe aeth Heledd Fychan ymlaen i ddweud fod gwersi i'w dysgu o Eisteddfod "arbrofol" Bae Caerdydd: "Un o'r pethau 'naethon ni ddysgu o Eisteddfod 2018 ym Mae Caerdydd oedd yr angen i sicrhau fod yr arian yn ei le cyn gwneud maes am ddim, oherwydd mi wnaeth yr Eisteddfod yna golled ariannol.

"Felly mae'n bwysig hefyd bod Eisteddfod am ddim, ddim chwaith yn tanseilio dyfodol yr Eisteddfod ac yn ei pheryglu yn y math fodd."

Gan ychwanegu mai "mantais Eisteddfod deithiol oedd gadael gwaddol yn lleol a galluogi pobl newydd i'w phrofi", ychwanegodd y gallai hefyd fod yn "Eisteddfod chwyldroadol", gan alluogi pobl "i weld fod y Gymraeg yn iaith fyw".

Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua hanner miliwn o ymwelwyr wedi mynychu'r Brifwyl yng Nghaerdydd yn 2018, ond fe wnaed colled o bron i £300,000

"Mae 'na nifer o bobl yn Rhondda Cynon Taf erioed wedi bod yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ddim yn gwybod be' ydi Eisteddfod Genedlaethol, dyna pam fyswn i'n hoffi gweld mynediad a ddim yn bosib.

"Fel bod nhw'n gallu mwynhau y Gymraeg, bod nhw falle'n gallu cael eu hysgogi i fod yn siarad Cymraeg.

"Mae pobl yn caru Parc Ynysangharad, y peth dwytha' dwi isho ydy gweld fod pobl leol yn methu ei ddefnyddio tra mae'r Eisteddfod ymlaen oherwydd dwi'n credu fydda hynny'n gallu gwneud niwed mawr i'r Gymraeg yn yr ardal.

"Dwi'n meddwl fod 'na risg, os 'da ni ddim yn sicrhau bod pobl leol yn gallu cael mynediad, wedi'r cyfan, mae lefelau tlodi plant yn eithriadol o uchel yn ardal Rhondda Cynon Taf.

Disgrifiad o’r llun,

Fe brynwyd y tir lle mae Parc Ynysangharad bellach yn sefyll arno gan bobl Pontypridd yn 1919

"A dyna pam mae pobl wrth eu boddau yn mynd i'r parc, mae'r lido am ddim i blant i'w ddefnyddio, mae gynnon ni barc chwarae anhygoel, gofodau gwyrdd anhygoel, cyrtiau tennis ac mae o yn cael ei ddefnyddio yn helaeth."

'Pam nad yw Gwynedd yn cael Eisteddfod am ddim?'

Dros y penwythnos fe ddywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses bod trafodaeth "barhaus" yn digwydd gyda'r llywodraeth am gostau cynnal y Brifwyl.

"Bysen i'n dadlau bod cymdeithas wâr yn un ble mae gan bawb mynediad i ddiwylliant," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae torfeydd yn heidio i Foduan

"Ond law yn llaw â'r argyfwng costau byw, mae 'na argyfwng yn y diwydiant digwyddiadau, ble mae costau wedi mynd drwy'r to.

"Felly roedd 'na bwynt llynedd ble roedd rhaid i ni edrych ar ble i wneud arbediad o £1m, a dyna'r realaeth i ddigwyddiadau."

Fe ychwanegodd mai'r "flaenoriaeth" oedd ceisio sicrhau cynlluniau fel mynediad am ddim i deuluoedd incwm isel, fel sy'n digwydd eleni, yn hytrach na Phrifwyl arall yn y de am ddim.

"O ran tegwch, pam nad yw Gwynedd yn cael Eisteddfod am ddim, pam nad yw Wrecsam yn cael Eisteddfod am ddim?" meddai.

'Rôl yr Eisteddfod yn hollbwysig'

Wrth siarad ar Dros Frecwast fe ddywedodd y Gweinidog dros y Gymraeg fod y llywodraeth wedi darparu cefnogaeth helaeth i'r brifwyl.

'Ry'n ni wedi cynyddu grant craidd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni i fwy na £1m dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf," meddai Jeremy Miles.

Fe ychwanegodd fod 'grantiau un tro o tua £1.75m wedi eu dyrannu i'r Eisteddfod, a bydd y Llywodraeth yn "edrych ar y gefnogaeth y gallan nhw roi'r flwyddyn nesa gan gydnabod pa mor bwysig yw sicrhau bod yr Eisteddfod yn hygyrch i gymaint o bobl a phosib".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jeremy Miles fod llywodraeth Cymru mewn "trafodaethau parhaus gyda'r Eisteddfod Genedlaethol

"Mae capasiti gan yr Eisteddfod i allu ysgogi a dysgu mwy o Gymraeg a ry'n ni eisoes wedi gweld y bwrlwm o frwdfrydedd yn lleol [ym Mhontypridd] gyda'r ŵyl gyhoeddi a'r gwaith cymunedol.

"Mae rôl yr Eisteddfod yn hollbwysig i ni fel cenedl, gyda'n hiaith, ond yn lawer mwy na gŵyl un wythnos.

"Mae'n benllanw cyfnod o flwyddyn neu ddwy o weithio yn y gymuned a sicrhau ein bod hi'n creu'r cyfleoedd hynny i bobl ddefnyddio eu Cymraeg a ry'n ni'n gweld hynny'n digwydd eisoes yn Rhondda Cynon Taf yn sgil y cynlluniau'r flwyddyn nesa."

Pan holwyd a fydd yna fwy o arian i'r Eisteddfod Genedlaethol allu ehangu ei hapêl y flwyddyn nesa, dywedodd Mr Miles eu bod nhw mewn "trafodaethau parhaus gyda'r Eisteddfod Genedlaethol" a byddai'n cael trafodaethau pellach heddiw, "felly ry'n ni wastad yn gwneud popeth y gallwn ni i gefnogi'r Eisteddfod, mae'n Ŵyl bwysig iawn i ni fel cenedl."

Grantiau bychain

Hefyd ar Dros Frecwast fe ddywedodd Mr Miles fod y llywodraeth bellach yn gwahodd grwpiau cymunedol i wneud cais am grantiau bach i helpu sefydlu cwmnïau cydweithredol cymunedol, mentrau cymdeithasol a phrosiectau tai, fel rhan o'r Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg.

Nod y 'Grantiau Bach Prosiect Perthyn' yw i helpu i greu cyfleoedd economaidd, darparu tai fforddiadwy, a chefnogi cymunedau Cymraeg sydd â dwysedd uchel o ail gartrefi.

Dywedodd Mr Miles fod prosiectau bach yn "gallu gwneud gwahaniaeth mawr yn ein cymunedau".

Disgrifiad o’r llun,

Mae cynllun lleol i wneud defnydd o adeilad Ysgol Abersoch wedi elwa o arian grant

Llwyddodd 21 cynllun i dderbyn cyllid fel rhan o gylch cyntaf y grant, gan gynnwys pedwar oddi fewn ardal Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.

Mae'r rhain yn cynnwys £8,000 i Fenter y Plu ddatblygu y dafarn enwog yn Llanystumdwy i gynnal digwyddiadau cymunedol, £12,000 i Fro'r Eifl ddatblygu cynllun tai, £12,000 i Felin Daron sefydlu a chefnogi melin ddŵr hanesyddol Gradd II Aberdaron, a £12,430 i Fenter Rabar i gael prydles ar hen ysgol Abersoch, neu ei phrynu, oddi wrth Gyngor Gwynedd.