Alun Ffred: Cyfnod clo wedi rhoi amser 'am y tro cyntaf'

Y cyfnod clo yn ystod y pandemig roddodd yr amser i lunio nofel fuddugol Gwobr Goffa Daniel Owen, meddai'r enillydd Alun Ffred.

Dywedodd bod y "galwadau wedi peidio, ac oriau i'w llenwi", ac felly "yn gyfle am y tro cyntaf, a dweud y gwir, bron a dweud erioed" i ysgrifennu'r nofel.

Yn ôl y beirniaid, roedd ei "nofel dditectif hynod o afaelgar" yn "creu awyrgylch ddwys heb fod yn or-ddibynnol ar ystrydebau'r ffurf", ac yn esiampl o "Noir Cymraeg ar ei orau a mwyaf gwreiddiol".