Alun Ffred wedi ennill Gwobr Goffa Daniel Owen yr Eisteddfod

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Y cyfnod clo oedd y "cyfle am y tro cyntaf, a dweud y gwir, bron a dweud erioed" i ysgrifennu'r nofel

Alun Ffred sydd wedi ennill Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.

Enillodd y wobr am greu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.

Roedd 10 o geisiadau eleni, a "digon i'w fwynhau ym mhob un ohonynt", meddai'r beirniaid.

Ond roedd un "chwip o nofel" yn "gofyn cwestiynau pwysig am ein bywyd cyfoes", a'r beirniaid yn unfrydol felly bod Gwynt y Dwyrain gan Gerddi Gleision yn haeddu'r wobr.

Yn wreiddiol o Frynaman, cafodd Alun Ffred ei fagu yn Llanuwchllyn, a bellach mae'n byw yn Nyffryn Nantlle.

Mae wedi gweithio fel athro, cyflwynydd a chynhyrchydd teledu ac fel gwleidydd - gan fod yn Aelod o'r Cynulliad, fel yr oedd ar y pryd.

Bu'n ymddiddori ym myd theatr ers perfformio gyda'r Aelwyd yn Llanuwchllyn, yn Ysgol y Berwyn, y Bala a'r Brifysgol ym Mangor.

Ef a'r diweddar Mei Jones oedd yn gyfrifol am greu'r gyfres radio a theledu, C'mon Midffîld, ac ef oedd awdur y gyfrol boblogaidd, Rhagor o Hanesion C'mon Midffîld.

Bu'n cynhyrchu a chyfarwyddo cyfresi ar S4C fel Deryn, Pengelli a Talcen Caled, a ffilmiau fel Cylch Gwaed a Plant y Tonnau.

Mae'n un sy'n weithgar yn ei fro, yn gadeirydd menter gymunedol Antur Nantlle ac fel cadeirydd Clwb Pêl-droed Nantlle Vale cyn camu'n ôl, ac ar hyn o bryd mae'n cadeirio elusen Sistema Cymru - Codi'r To.

Mae ganddo dri o blant gyda'i ddiweddar wraig, Alwen, ac ers ymddeol, mae'n rhestru ei ddiddordebau fel diogi, darllen, beicio, chwaraeon a'r theatr - yn y drefn honno.

Gwynt y Dwyrain yw ei nofel gyntaf. Bydd y nofel ar werth mewn siopau llyfrau ar draws y Maes a Chymru yn dilyn y seremoni heddiw.

Mae'n derbyn y fedal a £5,000 yn rhoddedig gan Grŵp Cynefin a Williams Homes.

Y feirniadaeth

Y beirniaid eleni oedd Sioned Wiliam, Mared Lewis a Dewi Prysor.

Wrth draddodi o'r llwyfan, dywedodd Sioned Wiliam: "Anrhydedd mawr oedd cael trin a thrafod y gweithiau er cof am Daniel Owen, tad y nofel Gymraeg, a luniodd rhai o'r straeon mwyaf cofiadwy a bywiog yn ein hanes.

"Deg nofel a ddaeth i law eleni a da oedd gweld wrth ddarllen fod yna ddigon i'w fwynhau ym mhob un ohonynt. Roedd gan bob nofelydd rhywbeth gwahanol iawn i'w gynnig ac fe gafodd Mared a Dewi a finne bleser mawr yn trafod eu gwaith."

Disgrifiad o’r llun,

Y beirniaid eleni oedd Sioned Wiliam, Mared Lewis a Dewi Prysor

"Ac yn olaf, Gwynt y Dwyrain gan Gerddi Gleision. Nofel dditectif hynod o afaelgar a darllenadwy yw hon sy'n llwyddo hefyd i greu awyrgylch ddwys heb fod yn or-ddibynnol ar ystrydebau'r ffurf.

"Mae'n trafod themâu mawr, dirywiad y ffordd Gymreig o fyw, dieithrio ac unigedd cefn gwlad a'r galar hwnnw sy'n aml yn llechu o dan wyneb cymdeithas.

"Mae'r ddeialog yn ffraeth ac yn gyhyrog ac yn llawn ymadroddion cofiadwy. Llwydda'r awdur i greu darlun cyfoethog o gymeriad neu olygfa mewn brawddegau cynnil.

"Noir Cymraeg ar ei orau a mwyaf gwreiddiol yw hwn. Hoffa'r ditectif Idwal Davies ddyfynnu Parry-Williams ac mae'n medru enwi bob un o fynyddoedd Eryri ond mae e'n ddigon cartrefol hefyd yn yfed 'te tramp' ar ystâd tŷ cyngor.

"Gwêl Idwal y drwg sydd ar waith yn y byd yn rhy glir i fod yn ddyn hapus ond mae ynddo gariad anferth at ei febyd ac mae'r dycnwch sy'n ei gynnal yn feunyddiol yn ei wthio'n gelfydd tuag at y diwedd dirdynnol.

"Chwip o nofel sy'n diddanu tra'n gofyn cwestiynau pwysig am ein bywyd cyfoes yw hon. Roedd y tri ohonom yn hollol unfrydol fod Gwynt y Dwyrain gan Gerddi Gleision yn llwyr haeddu Gwobr Daniel Owen 2023."