Mathew Hardman: Beth mae'n ei olygu i adolygu achos troseddwr?

Fe fydd euogfarn Mathew Hardman, a lofruddiodd wraig oedrannus ar Ynys Môn dros 20 mlynedd yn ôl, yn cael ei adolygu gan y corff sy'n ymchwilio i gamweinyddu cyfiawnder.

Roedd Hardman, oedd yn ymddiddori mewn fampirod, yn 17 oed ar y pryd, a dyma un o lofruddiaethau mwyaf drwg-enwog Cymru'r ganrif hon.

Beth mae'n ei olygu felly i adolygu achos troseddwr?

Yn ôl pennaeth adran y gyfraith ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr, mae modd gwneud cais mewn unrhyw broses droseddol i'r achos gael ei adolygu.

"Mae'r comisiwn yn ystyried os oes yna dystiolaeth newydd gafodd ddim ei ystyried gan y llys neu yn y llys apêl," medd Dylan Rhys Jones ar raglen Dros Frecwast.

"Neu bod 'na ryw ddadl gyfreithiol newydd na gafodd ei ystyried chwaith.

"Wrth gwrs ar hyn o bryd, does gennyn ni ddim gwybodaeth ynglŷn â pham bod y cais yma wedi cael ei wneud gan Mathew Hardman."