Adolygu euogfarn 'llofrudd fampir' Ynys Môn o 2001

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Gallai cynnwys yn y stori isod beri pryder.

Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Mathew Hardman yn euog o'r llofruddiaeth "mwyaf dideimlad a chreulon erioed" ym Môn yn 2001

Bydd euogfarn llanc a lofruddiodd wraig oedrannus ar Ynys Môn dros 20 mlynedd yn ôl yn cael ei adolygu gan y corff sy'n ymchwilio i gamweinyddu cyfiawnder.

Roedd Mathew Hardman, oedd yn ymddiddori mewn fampirod, yn 17 oed pan drywanodd Mabel Leyshon, 90, yn ei chartref yn Llanfairpwll, cyn tynnu ei chalon allan o'i brest ac yfed ei gwaed.

Roedd wastad wedi gwadu'r llofruddiaeth, ond collodd ymgais i apelio yn erbyn ei euogfarn yn 2003, a chafodd cais am barôl yn 2014 ei wrthod hefyd.

Mae'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol (Criminal Cases Review Comission) bellach wedi cadarnhau eu bod nhw'n ailedrych ar ei achos, gan ddweud eu bod yn "adolygu euogfarn Mr Hardman".

Dyma un o lofruddiaethau mwyaf drwg-enwog Cymru'r ganrif hon, gyda Heddlu Gogledd Cymru yn ei disgrifio fel "y mwyaf dideimlad a chreulon erioed".

Disgrifiad,

Yr uwch ddarlithydd Dylan Rhys Jones fu'n esbonio'r broses o adolygu achos ar raglen Dros Frecwast

Cafwyd hyd i gorff Mabel Leyshon ar 25 Tachwedd 2001 pan ymwelodd gwirfoddolwr gyda bwyd iddi yn ei chartref yn Lôn Pant.

Cafodd y wraig weddw oedrannus ei disgrifio fel person hyderus ac annibynnol.

Roedd hi'n gwylio teledu yn ei hoff gadair, gyda'r sain yn uchel oherwydd ei bod hi'n drwm ei chlyw, pan dorrodd Mathew Hardman un o'r ffenestri yn nrws cefn y tŷ.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y wraig weddw oedrannus, Mabel Leyshon, ei disgrifio fel person hyderus ac annibynnol

Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff Mabel Leyshon ar 25 Tachwedd 2001

Clywodd achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug yn 2002 iddo ei thrywanu 22 o weithiau, yna symud ei chorff i gadair arall a gosod dau brocer i ffurfio croes ger ei thraed.

Yna tynnodd ei chalon allan o'i brest a'i gosod mewn sosban, wedi ei lapio mewn papur newydd, gan roi'r sosban ar blât arian.

Yna tynnodd waed o goesau Mrs Leyshon i'r sosban, cyn ei yfed.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Hardman wedi gosod dau brocer i ffurfio croes ger ei traed Mrs Leyshon

Clywodd yr achos llys mai Hardman oedd yn cludo papur newydd i gartref Mabel Leyshon, ond ei fod wedi'i gyfareddu gan fampirod a'i fod am droi'n un mewn ymgais i fod yn anfarwol.

Cafwyd yn euog ar ôl i'r rheithgor gael gwybod bod DNA a ddarganfuwyd yn lleoliad y llofruddiaeth yn cyfateb â gwaed a ddarganfuwyd ar gyllell yng nghartref Hardman.

Roedd ei esgidiau hefyd yn cyfateb â'r olion traed a ddarganfuwyd yn nhŷ Ms Leyshon.

Fe gafodd ei ddedfrydu i oes yn y carchar yn Awst 2002 ond roedd yn dal i fynnu ei fod yn ddieuog, a gwnaeth gais am ganiatâd i apelio yn erbyn ei euogfarn yn 2003, ond gwrthodwyd hynny.

Cafodd cais am barôl yn 2014 ei wrthod hefyd.

Mae bellach wedi gwneud cais i'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol, sy'n ymchwilio i achosion posibl o gamweinyddu cyfiawnder.

Dywedodd llefarydd ar ran y comisiwn: "Mae cais wedi dod i law yn ymwneud â'r achos hwn ac mae adolygiad ar y gweill. Byddai'n amhriodol i ni wneud sylw pellach tra bod hyn yn digwydd."

Fe wnaethon nhw gadarnhau fore Mawrth eu bod yn "agolygu euogfarn Mr Hardman".

Dydyn nhw ddim wedi dweud pa mor hir y bydd yr adolygiad yn ei gymryd.

Pynciau cysylltiedig