Achos Letby: 'Yr achos mwyaf echrydus yn y GIG'

Mae rheithgor wedi cael nyrs 33 oed yn euog o lofruddio saith o fabanod oedd yn ei gofal mewn uned i fabanod newydd-anedig mewn ysbyty yng Nghaer.

Dyfarnwyd hefyd fod Lucy Letby yn euog o geisio llofruddio chwe baban arall yn Ysbyty Countess of Chester.

Wrth siarad ag Aled Huw ar Newyddion S4C dywedodd y pediatrydd arbenigol, Dr Dewi Evans, a oedd yn un o brif dystion yr erlyniad mai dyma'r achos mwyaf echrydus yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ers 75 mlynedd.

Mae Dr Evans wedi bod yn ymwneud ag achos Lucy Letby ers chwe blynedd ac wrth groesawu'r dyfarniad ddydd Gwener dywedodd ei fod yn anodd credu "sut bod hyn wedi digwydd".

"Rwy'n croesawu beth mae'r rheithgor wedi ei benderfynu," meddai.

"Dyma'r achos mwyaf echrydus, dwi'n credu, sydd wedi digwydd yn y gwasanaeth iechyd dros y 75 mlynedd diwethaf mewn unrhyw ysbyty yng ngwledydd Prydain."

"Mae'r peth yn ofnadwy, dyn a wŷr sut mae hyn wedi digwydd ac mae'n rhaid i ni deimlo dros y teuluoedd a'r babanod hyn.

"Mae pawb wedi methu'r teuluoedd yma."