Y nyrs Lucy Letby yn euog o lofruddio saith babi

  • Cyhoeddwyd
Lucy LetbyFfynhonnell y llun, Heddlu Sir Caer
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Lucy Letby yn gwadu llofruddio saith o fabanod a cheisio llofruddio 10 arall

Mae rheithgor wedi cael nyrs 33 oed yn euog o lofruddio saith o fabanod oedd yn ei gofal mewn uned i fabanod newydd-anedig mewn ysbyty yng Nghaer.

Dyfarnwyd hefyd fod Lucy Letby yn euog o geisio llofruddio chwe baban arall yn Ysbyty Countess of Chester.

Roedd y nyrs, sy'n dod o Henffordd yn wreiddiol, wedi pledio'n ddieuog i'r holl gyhuddiadau yn ei herbyn, mewn cysylltiad ag achosion rhwng Mehefin 2015 a Mehefin 2016.

Bob blwyddyn mae 20,000 o bobl o ogledd-ddwyrain Cymru'n defnyddio'r ysbyty, ac mae'r BBC yn deall bod babanod a gafodd eu geni i deuluoedd o Gymru ymhlith y rheiny a effeithiwyd.

Bydd Letby yn cael ei dedfrydu yn Llys y Goron Manceinion ddydd Llun.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd ymchwiliad annibynnol i amgylchiadau'r llofruddiaethau "er mwyn helpu sicrhau bod teuluoedd yn cael yr atebion maen nhw eu hangen".

Clywodd yr achos, a barodd am naw mis, bod Letby wedi defnyddio sawl techneg i ymosod ar y babanod, gan gynnwys gwenwyno gydag inswlin, chwistrellu aer i wythiennau neu bibellau bwydo, neu orfwydo.

Fe gafwyd Letby yn ddieuog o ddau gyhuddiad o geisio llofruddio, ond fe fethodd y rheithgor â phenderfynu yn achos cyhuddiadau pellach o geisio llofruddio pedwar o fabanod.

Gofynnodd bargyfreithiwr yr erlyniad wrth y llys am 28 diwrnod i ystyried a ddylid cynnal achos llys newydd yn achos y chwe chyhuddiad yna.

Gwrthod dod i'r llys

Roedd y rheithgor wedi dod i'w dyfarniad yn achos rhai o'r cyhuddiadau ar 8 Awst, ac fe wylodd Letby yn y doc mewn ymateb i'r euogfarnau cyntaf.

Disgrifiad,

Dr Dewi Evans: 'Yr achos mwyaf echrydus yn y GIG'

Nid oedd yn bosib cyhoeddi manylion y dyfarniadau hynny nes bod y rheithgor wedi penderfynu ar weddill y cyhuddiadau.

Fe wylodd y diffynnydd eto, gyda'i phen i lawr, wedi rhagor o euogfarnau ar 11 Awst, ond fe wrthododd â dod i'r llys i glywed gweddill y dyfarniadau ddydd Gwener.

Cododd aelod o staff bryderon am y cynnydd yn nifer y marwolaethau a salwch sydyn yn yr uned babanod newydd-anedig yn 2016. Yr unig berson yn bresennol ym mhob achos oedd Lucy Letby.

Dechreuodd yr heddlu ymchwilio ac ar ôl ymgynghori gydag arbenigwyr, fe ddaethon nhw i'r casgliad mai un person allai fod yn gyfrifol.

Ffynhonnell y llun, SWNS
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Lucy Letby ei harestio wedi pryderon bod nifer o fabanod wedi marw neu mynd yn sâl yn annisgwyl

"Mynd drwy'r broses honno a sefydlu mai Lucy Letby oedd yr unig berson oedd yn bresennol pob tro roedd 'na farwolaeth neu bob tro y cafodd plentyn dro gwael - dyna arweiniodd at ei harestio," meddai Nicola Evans, dirprwy uwch swyddog ymchwilio gyda Heddlu Sir Caer.

Fe ymosododd Letby ar y plant yn gyson dros gyfnod o flwyddyn.

"Mi fradychodd hi'r rhieni hynny a roddodd eu holl ffydd ynddi hi i edrych ar ôl eu babanod bach," meddai.

"Mi fradychodd hi ei chydweithwyr a'i ffrindiau hefyd i gyflawni'r troseddau hyn."

'Anodd derbyn beth sydd wedi digwydd'

Gofynnwyd i'r heddlu esbonio pam na chafodd Letby ei hamau ynghynt, o ystyried iddi droseddu cyhyd.

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Paul Hughes, yr uwch swyddog ymchwilio: "Pam y byddai unrhyw un yn credu bod rhywbeth mor wael yn mynd i ddigwydd?

"Pam fyddai'r staff, gan gynnwys y doctoriaid, yn credu o gwbl bod rhywun yn niweidio'r babanod hyn yn bwrpasol?"

Ychwanegodd DCI Evans: "Mae'n anodd dychmygu, hyd yn oed, y byddai unrhyw un yn cyflawni'r fath droseddau, ac felly rydych chi'n disgwyl bod y troseddwr yn berson hollol wahanol, hollol gythreulig.

"Mae'r ffaith nad ydy hi'n berson felly yn ei gwneud hi'n anodd i dderbyn beth sydd wedi digwydd."

'Dwi'n ddieflig'

Dydy'r 17 o blant sy'n rhan o'r achos ddim wedi cael eu henwi, ac fe gyfeiriwyd atyn nhw yn y llys yn ôl llythyren - o Fabi A i Fabi Q.

Wrth archwilio cartref Lucy Letby yn 2018, daeth yr heddlu o hyd i dros 250 o dudalennau o nodiadau meddygol, gan gynnwys rhai oedd yn perthyn i ddioddefwyr honedig.

Roedd hi wedi gyrru cardiau i rieni plant roedd hi wedi eu llofruddio, ac wedi chwilio am eraill ar y cyfryngau cymdeithasol.

Hefyd yn ei thŷ roedd nodiadau yn ei llawysgrifen ei hun yn dweud pethau fel "dwi'n ddieflig".

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiadau ar y babanod dros gyfnod o 12 mis yn uned babanod newydd-anedig yr ysbyty

Trwy gydol yr achos llys, mae Letby wedi gwadu'r cyhuddiadau yn ei herbyn, gan gyhuddo'r awdurdodau o gynllwynio yn ei herbyn i guddio methiannau eraill yn Ysbyty Countess of Chester.

Cydweithiodd gyda'r heddlu yn ystod eu hymchwiliad, ond mewn 30 awr o gyfweliadau, wnaeth hi ddim cyfaddef nag esbonio ei rhan yn yr hyn ddigwyddodd.

Mewn un cyfweliad, sydd wedi cael ei ryddhau i'r wasg wedi i'r achos ddod i ben, mae heddwas yn ei holi os oedd hi'n poeni am gynnydd yng nghyfradd y marwolaethau ar yr uned babanod newydd-anedig.

"Oeddwn," meddai. "Dwi'n meddwl ein bod ni fel tîm - y staff nyrsio - wedi sylwi yn gyffredinol bod 'na gynnydd o'i gymharu â blynyddoedd eraill."

'Mwynhau' cofnodi'r achosion

Er i'r llys ei chael hi'n euog o 13 cyhuddiad ddydd Gwener, does dim esboniad pam wnaeth Lucy Letby ymosod ar y babanod yn ei gofal.

Mae'r seicolegydd Dr Nia Williams o Brifysgol Bangor wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil ar lofruddwyr a'r hyn sy'n eu harwain nhw i weithredu.

Yn ei barn hi, mae nodiadau fel y rhai yn ystafell Letby yn eithaf nodweddiadol o droseddwyr o'r fath.

"Fel mae rhai ohonyn nhw'n gweithredu, maen nhw'n mwynhau cofio pethau am beth ddigwyddodd," meddai.

"Mae eraill efallai yn mwynhau cadw pethau sy'n mynd i'w hatgoffa nhw o beth ddigwyddodd.

"Yn yr achos yma efallai bod y nodiadau wedi bod yn elfen o hynny, fel ei bod hi'n cydnabod beth mae hi wedi ei wneud ac wedi nodi hynny mewn nodiadau personol, personol iawn."

Pynciau cysylltiedig