'Neb gwell' i rannu'r fraint o fod yn gyd-gapteiniaid Cymru
Mae Jac Morgan wedi dweud ei bod hi'n "anrhydedd fawr" i gael ei ddewis fel un o gyd-gapteiniaid Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd eleni.
Bydd blaenasgellwr y Gweilch yn rhannu'r gapteiniaeth gyda'r bachwr Dewi Lake, sydd hefyd yn chwarae i'r un rhanbarth.
Ychwanegodd Lake fod "dim un person arall" y byddai'n well ganddo rannu'r fraint gydag ef na Morgan.
Daw hynny wrth i Warren Gatland gadarnhau'r garfan o 33 chwaraewr fydd yn teithio i'r twrnament yn Ffrainc sydd yn dechrau fis nesaf.