Jac Morgan a Dewi Lake i arwain Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd

  • Cyhoeddwyd
Jac MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Er ei fod ond wedi ennill 11 cap yn unig, mae Jac Morgan wedi creu argraff yn ei yrfa ryngwladol fer

Mae Warren Gatland wedi dewis y blaenasgellwr Jac Morgan a'r bachwr Dewi Lake i fod yn gyd-gapteiniaid Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc.

Bydd Morgan a Lake yn arwain carfan sydd hefyd yn cynnwys Taulupe Faletau a Gareth Anscombe, er bod y ddau yn gwella o anafiadau.

Mae'r prif hyfforddwr wedi dewis 19 o flaenwyr a 14 o olwyr yn ei garfan o 33 o chwaraewyr.

Disgrifiad,

Morgan: "Anrhydedd enfawr" i fod yn gyd-gapteiniaid Cymru

Dim ond dau fewnwr sydd wedi'u cynnwys - Tomos Williams a Gareth Davies - gyda dim lle i Kieran Hardy.

Mae hynny wedi galluogi Gatland i gynnwys chwaraewr ychwanegol ymysg yr asgellwyr a chefnwyr, gyda Rio Dyer a Leigh Halfpenny yn rhan o'r garfan, pan oedd disgwyl efallai mai un o'r ddau fyddai ar yr awyren.

Mae'r propiau Corey Domachowski a Henry Thomas wedi'u cynnwys ar ôl ennill eu capiau cyntaf i Gymru yn ystod y gemau paratoi, tra bod Sam Costelow wedi'i ffafrio yn hytrach nag Owen Williams fel un o'r maswyr.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Dewi Lake adael y maes gydag anaf yn Twickenham, ond y gobaith yw y bydd yn holliach ar gyfer Cwpan y Byd

Carfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd

Blaenwyr: Taine Basham, Adam Beard, Elliot Dee, Corey Domachowski, Ryan Elias, Taulupe Faletau, Tomas Francis, Dafydd Jenkins, Dewi Lake, Dillon Lewis, Dan Lydiate, Jac Morgan, Tommy Reffell, Will Rowlands, Nicky Smith, Gareth Thomas, Henry Thomas, Christ Tshiunza, Aaron Wainwright.

Olwyr: Josh Adams, Gareth Anscombe, Dan Biggar, Sam Costelow, Gareth Davies, Rio Dyer, Mason Grady, Leigh Halfpenny, George North, Louis Rees-Zammit, Nick Tompkins, Johnny Williams, Liam Williams, Tomos Williams.

Er ei fod ond wedi ennill 11 cap yn unig, mae Morgan wedi creu argraff yn ei yrfa ryngwladol fer, ac mae'r un yn wir am Lake yn ei naw gap yntau.

Morgan oedd y capten ar gyfer dwy o'r gemau paratoadol, tra mai Lake oedd y capten ar gyfer y llall, er iddo orfod gadael y maes yn hanner cyntaf y gêm honno oherwydd anaf.

Mae dewis dau chwaraewr 23 a 24 oed, sydd ag 20 cap yn unig rhyngddynt, yn arwydd amlwg fod Gatland wedi troi ei olygon tua'r dyfodol.

Daw hynny yn sgil ymddeoliad sawl chwaraewr blaenllaw fel Alun Wyn Jones a Justin Tipuric, ac absenoldeb ambell i hen ben arall fel Ken Owens oherwydd anafiadau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Rwy'n credu ein bod wedi dewis carfan gytbwys o ran dawn a phrofiad," meddai Gatland

Cymysg fu gemau paratoadol Cymru cyn Cwpan y Byd, gyda llu o enwau mawr yn absennol oherwydd anafiadau.

Er iddyn nhw drechu Lloegr yn Stadiwm Principality, colli oedd eu hanes yn Twickenham, cyn cael crasfa gan y pencampwyr presennol De Affrica yng Nghaerdydd.

Anafiadau

Mae hyd at saith o chwaraewyr wedi'u cynnwys yn y garfan sy'n gwella o anafiadau ar hyn o bryd.

Dyw Anscombe na Faletau wedi ymddangos yn yr un o'r gemau paratoadol, ac fe gafodd Lake, Ryan Elias a Dafydd Jenkins anafiadau yn y ddwy gêm yn erbyn Lloegr.

Fe wnaeth Dan Biggar a Liam Williams dynnu 'nôl o'r tîm cyn y golled yn erbyn De Affrica hefyd.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Leigh Halfpenny yn y garfan ar ôl ennill ei 100fed cap yn y fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr ddechrau Awst

"Y rhan anoddaf o fy swydd yw gwneud dewisiadau fel hyn - yn enwedig felly pan fo lle yng ngharfan Cwpan y Byd yn y fantol," meddai Gatland.

"Dros y tri mis diwethaf, mae'r grŵp cyfan o 48 o chwaraewyr sydd wedi ymarfer gyda'r garfan wedi arddangos agwedd ac ymdrech hollol wych - ac felly mae gorfod torri'r garfan i lawr i 33 wedi bod yn galed iawn.

"Yn ystod y 36 awr ddiwethaf, mae llawer o benderfyniadau agos iawn am nifer o safleoedd wedi gorfod cael eu gwneud.

"Dim ond 33 o chwaraewyr yr ydym yn cael eu cymryd i Ffrainc ac rwy'n credu ein bod wedi dewis carfan gytbwys o ran dawn a phrofiad."

Disgrifiad,

Bu'r capten Jac Morgan yn ateb cwestiynau cyflym Chwaraeon BBC Cymru cyn gêm baratoadol olaf Cymru cyn Cwpan Rygbi'r Byd

Bydd Cymru'n dechrau'r bencampwriaeth yn erbyn Fiji yn Bordeaux ar ddydd Sul, 10 Medi, cyn wynebu Portiwgal yn Nice ar yr 16eg.

Y penwythnos canlynol fe fydd y crysau cochion yn herio Awstralia yn Lyon, cyn y gêm olaf yn y grŵp yn erbyn Georgia yn Nantes bythefnos yn ddiweddarach ar 7 Hydref.

Yn ôl detholion rygbi'r byd, fe fydd y grŵp yn un agos. Mae Awstralia yn 8fed, Fiji yn 9fed, Cymru yn 10fed, a Georgia yn 11eg, tra bod Portiwgal yn 16eg.

Bydd yn rhaid i Gymru orffen yn y ddau uchaf yng Ngrŵp C er mwyn sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf.

Os ydyn nhw'n llwyddo i wneud hynny, fe fyddan nhw'n herio tîm o grŵp D - sy'n cynnwys Lloegr, Ariannin a Japan - yn y rownd honno, a hynny ym Marseille ar 14 neu 15 Hydref.