Sut mae Gorsedd Cernyw yn cymharu â Chymru?
Dyma Pol Hodge, Bardh Meur, neu Fardd Mawr Cernyw, yn esbonio ychydig o hanes yr Orsedd, yng Nghernyweg.
Daeth Gorsedd Cernyw, neu Gorsedh Kernow i ddefnyddio'r iaith leol, i fodolaeth yn 1928.
Cafodd unigolion teilwng o Gernyw eu derbyn mewn seremoni gan Orsedd Cymru yn Nhreorci fis Awst 1928, a'r unigolion yma oedd y criw craidd cyntaf aeth ymlaen i ddatblygu gorsedd newydd Cernyw.
Dydd Sadwrn, bydd 29 o unigolion yn cael eu hurddo i'r Orsedd yn Padstow, ac yn eu plith mae rhai o Gymru.
Tybed faint o'r iaith Gernyweg llwyddoch chi ei ddeall yn y fideo yma?