Gorsedd Cernyw yn derbyn Cymro o Lanrug i'w plith
- Cyhoeddwyd
Yma yng Nghymru, mae'r orsedd yn rhan fawr o'n diwylliant, ac mae'r un peth yn wir yng Nghernyw.
Dydd Sadwrn, bydd 29 o unigolion yn cael eu hurddo i'r Orsedd yn Padstow, ac yn eu plith mae rhai o Gymru.
Mae Davyth Fear o Lanrug yn un fydd yn cael ei urddo, ac mae'n edrych ymlaen at deithio draw i Gernyw i dderbyn ei wisg las.
"Dwi'n falch iawn o hyn. Mae'n rhywbeth dwi 'di gweithio tuag ato ers cwpl o flynyddoedd bellach," meddai.
"Mae'n bosib cael eich urddo am nifer o bethau - un ydi drwy arholiad a dwi wedi pasio arholiad lefel uchaf yn y Gernyweg, sef gradd pedwar.
"Hefyd, mae'n bosib cael eich urddo wrth wneud rhywbeth dros yr iaith, a dwi 'di ysgrifennu dros 1,000 o erthyglau Wicipedia yn y Gernyweg."
Yn ôl Davyth, mae'n hawdd iawn i bobl sy'n siarad Cymraeg i ddysgu Cernyweg.
"Yn ystod y cyfnod clo, roedd y dosbarthiadau Cernyweg i gyd ar-lein, felly am y tro cyntaf, roeddwn i'n medru siarad a dysgu Cernyweg gyda phobl.
"Ers hynny dwi 'di bod yn mireinio'r iaith drwy fynychu sesiynau ar Zoom ac ati."
Beth yw hanes Gorsedd Cernyw?
Daeth Gorsedd Cernyw, neu Gorsedh Kernow i ddefnyddio'r iaith leol, i fodolaeth yn 1928.
Cafodd unigolion teilwng o Gernyw eu derbyn mewn seremoni gan Orsedd Beirdd Ynys Prydain - a drodd yn Orsedd Cymru yn 2019 - yn Nhreorci fis Awst 1928, a'r unigolion yma oedd y criw craidd cyntaf aeth ymlaen i ddatblygu gorsedd newydd Cernyw.
Ar ôl cael eu derbyn yn Nhreorci, aeth y criw o Gernyw ati i sefydlu eu hunain fel Cyngor Gorsedh Kernow.
Yn ôl Myrddin ap Dafydd, Archdderwydd Cymru, roedd dylanwad yr orsedd yng Nghymru yn amlwg iawn ar yr Orsedd yng Nghernyw, ac yn Llydaw.
"Mi roedd yna adfywiad yn y diddordeb yn yr iaith Gernyweg, ac wedyn mi oedden nhw yn chwilio am unrhyw eicon neu arwydd o genedligrwydd yng Nghernyw," meddai.
"Mae'n ddiddorol iawn mai sefydlu Gorsedd Cernyw oedd y cam cyntaf.
"Amddiffyn yr iaith, amddiffyn y traddodiadau Celtaidd yno a hybu diddordeb yn y dreftadaeth yn gyffredinol - ac mae hynny'n dilyn yr un patrwm â ninnau yng Nghymru."
Yr Orsedd unlliw
Yn wahanol i Orsedd Cymru, roedd Cernyw o'r farn y dylid trin holl aelodau’r Orsedd yn gyfartal a gwisgo'u holl feirdd mewn gwisg las yn unig.
Mae hyn yn dal i fod yn wir heddiw, gyda phrifeirdd a'r rhai sydd â swyddi o fewn yr Orsedd i gyd yn gwisgo penwisg wahanol neu'n gwisgo platiau seremonïol am eu gyddfau.
Dwy flynedd yn ôl fe wnaeth Myrddin ap Dafydd gynrychioli Gorsedd Cymru yng Nghernyw, ac er y gwahaniaeth gyda lliw'r gwisgoedd, roedd llawer o agweddau tebyg rhwng eu seremoni nhw a Chymru.
"Mae ganddyn nhw ddawns flodau, mae gweddi'r orsedd yn y Gernyweg, mae'r corn gwlad a'r anthem genedlaethol - ar alaw Hen Wlad Fy Nhadau ond gyda geiriau Cernyweg - felly mi oedd 'na nifer o bethau tebyg," meddai.
Serch hyn, roedd un gwahaniaeth mawr yn eu seremoni nhw a arhosodd yn y cof.
"Doedd yna ddim cleddyf mawr, dim Ceidwad y Cledd," meddai Mr ap Dafydd.
"Y traddodiad yn fan 'na ydi bod Gorsedd Llydaw a Gorsedd Cernyw yn dod at ei gilydd yng Nghernyw ac yn cyflwyno traddodiad sy'n mynd â ni 'nôl i gyfnod y Brythoniaid, pan 'naeth y Brythoniaid oedd yng Nghernyw a Dyfnaint ffoi a mudo i Lydaw.
"Wrth wneud hynny, dyma nhw'n torri cleddyf yn ei hanner mae'n debyg, a rhoi un hanner oedd yn mynd i Lydaw, a chadw un hanner yng Nghernyw.
"Felly rhan o Orsedd Cernyw ydi bod y ddau hanner yn dod yn ôl ynghyd, ac mae 'na gynrychiolwyr yn dod o Lydaw gyda'r hanner coll ac yn ei roi at ei gilydd."
'Gwers i ni yng Nghymru'
Ychwanegodd: "Mae'r ochr gymdeithasol yng Ngorsedd Cernyw yn eithriadol o Gymraeg - mi ges i dipyn o syndod i ddweud y gwir, mod i'n medru siarad Cymraeg efo cynifer o'r aelodau.
"Mi oedd amryw ohonyn nhw wedi bod yn gweithio yng Nghymru, neu wedi priodi rhywun o Gymru, ac wedi dysgu Cymraeg.
"Yn sicr, dwi'n meddwl fod hynny yn wers i ni yng Nghymru. Mi oedden nhw'n fodlon dysgu ail iaith Geltaidd."
Pol Hodge ydi Bardh Meur (bardd mawr) Cernyw, sef y rôl sy'n cyfateb i swydd yr Archdderwydd.
"Un peth sy'n wahanol gyda ni ydi'r ffaith nad ydi holl feirdd Gorsedd Cernyw yn siarad y Gernyweg," meddai.
"Mae'r fraint o fod yn fardd yn cael ei gyflwyno i bobl sy'n gwneud pethau er lles Cernyw - gallai hynny fod yn gerdd, celf, pob mathau o bethau.
"Bob blwyddyn mae dau berson o Orsedd Cernyw yn ymweld â'r Eisteddfod ac yn cymryd rhan yn seremoni Gorsedd Cymru.
"A bob blwyddyn rydyn ni'n gwahodd dau gynrychiolydd o Gymru i'n Gorsedd ni, ond mae gennym ni hefyd gynrychiolwyr yn ymweld o Goursez Vreizh, sef Gorsedd Llydaw.
"Mae'n anrhydedd mawr cael bod yn fardd, ac mae'n golygu popeth i mi.
"Mae fy ngwraig yn siarad Cernyweg ac mae hithau'n fardd - a'r iaith oedd beth 'naeth ddod â ni'n dau at ein gilydd.
"Mae gennym ni rŵan gyfle i geisio rhoi rhywbeth yn ôl i ddiwylliant ein gwlad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Awst 2023
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2022