'Teimlo'n gry'' dros ddathlu Sycharth

Bydd safle o arwyddocâd pwysig yn hanes Cymru yn destun dadl yn y Senedd ddydd Mercher.

Ar y safle yng ngogledd Powys yr oedd Castell Sycharth yn sefyll - cartref Owain Glyndŵr, y Cymro diwethaf i arddel y teitl Tywysog Cymru.

Arweiniodd Owain Glyndŵr wrthryfel Cymreig yn erbyn rheolaeth Brenin Lloegr yn y 1400au cynnar, ond cafodd ei gastell ei losgi'n fuan wedi i'r gwrthryfel fethu.

Mae ymgyrchwyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i brynu'r safle, ac yn gynharach eleni, cafodd deiseb, gydag arni dros 10,000 o lofnodion, ei chyflwyno i'r Senedd.

Y cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn o Gyngor Gwynedd ddechreuodd y ddeiseb, ac ar raglen Dros Frecwast fore Mercher, bu'n esbonio pam ei fod yn teimlo mor gryf am y mater.