Llywodraeth ddim am brynu safle castell Owain Glyndŵr

SycharthFfynhonnell y llun, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Safle'r hen gastell mwnt a beili yn Sycharth yng ngogledd Powys

  • Cyhoeddwyd

Ni fydd Llywodraeth Cymru yn prynu safle castell canoloesol Owain Glyndŵr, yn ôl y gweinidog diwylliant.

Roedd Dawn Bowden yn ymateb yn y Senedd i ddeiseb gyda dros 10,000 o lofnodion a gafodd ei chyflwyno i'r Senedd yn gynharach eleni yn galw ar y llywodraeth i brynu'r safle.

Meddai'r gweinidog: "Mae'r safle mewn perchnogaeth breifat, mae ganddo denantiaid gydol oes, ac nid yw ar werth.

"At hynny, nid yw mewn perygl ar hyn o bryd, felly nid yw prynu gorfodol yn opsiwn."

Ond ychwanegodd: "Fel heneb gofrestredig, mae'r safle'n cael ei warchod trwy ddeddfwriaeth, ac mae gwaith partneriaeth agos rhwng perchnogion y safle, ystâd Llangedwyn, y ffermwyr tenant, a Cadw, i ddarparu ar gyfer cadwraeth a chynnal a chadw gweddillion ffisegol Sycharth."

Disgrifiad,

Ailgread technoleg rhithiwr o'r hen lys gan gwmni Vivid Virtual Reality, sydd wedi ei seilio'n rhannol ar ddisgrifiad cyfoes y bardd Iolo Goch o Sycharth

Arweiniodd Owain Glyndŵr wrthryfel Cymreig yn erbyn rheolaeth Brenin Lloegr yn y 1400au cynnar.

Mae ei hanes yn cael ei ddathlu'n flynyddol ar draws Cymru ar 16 Medi.

Roedd yn ddisgynnydd i dywysogion Powys ac etifeddodd faenor Sycharth yn nyffryn Cynllaith ger y ffin â Lloegr.

Roedd gan y Cymro diwethaf i arddel y teitl Tywysog Cymru gastell mwnt a beili yn Sycharth yng ngogledd Powys.

Cafodd y safle ei losgi i’r llawr ar ôl i’r gwrthryfel fethu, ond mae olion y fryngaer a’r ffos i’w gweld o hyd.

Mae'n eiddo i Ystâd Llangedwyn ac yn cael ei bori.

Disgrifiad,

Y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn sydd wedi trefnu'r ddeiseb

Cafodd deiseb ei chyflwyno i’r Senedd ym mis Mai, dolen allanol yn galw ar Lywodraeth Cymru i brynu’r safle i’w “ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol”.

Roedd y ddeiseb, a drefnwyd gan gynghorydd Gwynedd, Elfed Wyn ap Elwyn, hefyd yn galw am wneud y lleoliad yn fwy hygyrch.

"Dwi isio gweld, yn bendant, y llywodraeth yn prynu'r safle yma," meddai'r Cynghorydd ap Elwyn.

"Dwi'n meddwl bod o mor bwysig i bobl Cymru, mor bwysig i'n hanes ni, mae'n wallgo' rywsut bod Sycharth ddim o fewn ein perchnogaeth ni fel cenedl."

"Does 'na'm llawer yn gwybod lle mae o, hwyrach bod nhw wedi clywed amdano fo, ond eto mae'n rhywle 'dan ni angen ei gadw a'i ddatblygu hyd yn oed at y dyfodol."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr AS Jack Sargeant ar ôl ymweld â Sycharth bod yna deimlad arbennig i'r safle

Cafodd y ddadl yn y Senedd ddydd Mercher ei chyflwyno gan y Pwyllgor Deisebau, wedi iddyn nhw ymweld â Sycharth ym mis Mehefin.

Dywedodd y Cadeirydd, Jack Sargeant AS, ar ôl yr ymweliad: “Fe allech chi ddweud yn bendant ein bod ni mewn lle o bwysigrwydd. Roeddech chi’n cael y teimlad yna.

“Ond does dim dwywaith bod angen gwneud rhywbeth mwy yn fy marn i. Sut olwg sydd ar hynny? Allwn i ddim gwneud sylw ar hyn o bryd.”

Y llynedd, dywedodd Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, y byddai'n gwneud gwelliannau gyda'r tirfeddiannwr yn dilyn cwynion gan ymwelwyr.

“Dylem yn sicr edrych i weld a allwn wella’r hyn a gynigir gan Gastell Sycharth,” meddai Mr Sargeant.

“Mae’r berthynas rhwng yr ystâd a Cadw yn ymddangos yn un o ewyllys da. Os gallwn wella ar hynny byddwn yn ei groesawu.”

Dywedodd llefarydd ar ran Ystâd Llangedwyn: "Rydym wedi bod yn gweithio gyda Cadw ac yn cymryd cyngor gan Cadw ar sut i reoli'r safle sy'n cael ei bori.

“Bydd Cadw yn awgrymu'r arfer gorau."