Nice mewn 90 eiliad: Stop nesaf Cwpan y Byd i Gymru

Wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Fiji yn Bordeaux, Nice ydi lleoliad gêm nesaf Cymru yng Nghwpan y Byd, a hynny yn erbyn Portiwgal.

Mae Warren Gatland wedi gwneud llu o newidiadau i'r tîm, gyda dim ond dau chwaraewr yn cadw eu lle yn y 15 fydd yn dechrau, a'r bachwr Dewi Lake yn gapten.

Unwaith yn unig mae Cymru wedi cwrdd â Phortiwgal, a hynny mewn gêm ragbrofol yn Lisbon yn 1994 er mwyn cyrraedd Cwpan y Byd yn Ne Affrica y flwyddyn ganlynol.

Enillodd Cymru o 102-11 y diwrnod hwnnw - y unig dro erioed i Gymru sgorio dros 100 o bwyntiau mewn gêm

Beth sydd gan Nice i'w chynnig i gefnogwyr Cymru felly? Ein gohebydd Iolo Cheung sydd yno i egluro.