Cwpan Rygbi'r Byd: 13 newid i Gymru yn erbyn Portiwgal
- Cyhoeddwyd
Y bachwr Dewi Lake fydd yn gapten Cymru yn erbyn Portiwgal yn Nice ddydd Sadwrn, yn eu hail gêm yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc.
Mae Lake yn un o 13 newid o'r tîm ddechreuodd y fuddugoliaeth yn erbyn Fiji nos Sul.
Dim ond yr wythwr Taulupe Faletau a'r asgellwr Louis Rees-Zammit sy'n aros yn y tîm.
Mae Lake yn gyd-gapten ar y garfan, ynghŷd â Jac Morgan, ond ni chafodd ei ddewis fel rhan o'r 23 i herio Fiji am mai yn ddiweddar y daeth yn ôl o anaf.
Gareth Anscombe - sydd heb chwarae i Gymru ers iddo ddioddef anaf i'w ysgwydd yn erbyn Awstralia yn Nhachwedd 2022 - fydd yn faswr.
Bydd Tomos Williams yn ennill ei 50fed cap yn safle'r mewnwr, gyda Mason Grady a Johnny Williams yn ganolwyr.
Dafydd Jenkins a Christ Tshiunza fydd yn yr ail reng, a'r unig chwaraewr o'r 33 yn y garfan fydd ddim yn rhan o'r ddwy gêm agoriadol felly ydy'r prop Henry Thomas.
Tîm Cymru i herio Portiwgal
Leigh Halfpenny; Louis Rees-Zammit, Mason Grady, Johnny Williams, Rio Dyer; Gareth Anscombe, Tomos Williams; Nicky Smith, Dewi Lake (capt), Dillon Lewis, Christ Tshiunza, Dafydd Jenkins, Dan Lydiate, Tommy Reffell, Taulupe Faletau.
Eilyddion: Ryan Elias, Corey Domachowski, Tomas Francis, Adam Beard, Taine Basham, Gareth Davies, Sam Costelow, Josh Adams.
Dywedodd y prif hyfforddwr Warren Gatland: "Gan mai dim ond chwe niwrnod sydd rhwng y ddwy gêm, ry'n ni wedi gwneud cryn dipyn o newidiadau.
"Bydd yr ornest hon yn gyfle gwych i'r 23 chwaraewr yma ddangos beth y gallan nhw ei wneud.
"Ry'n ni wedi edrych yn ôl yn fanwl ar gêm ddydd Sul diwethaf ac mae agweddau o'n chwarae y mae'n rhaid i ni wella arnyn nhw.
"Mae gennym gynllun clir ar gyfer herio Portiwgal ac rwy'n disgwyl i ni weithredu yr hyn yr ydym wedi ei ymarfer, ar y cae ddydd Sadwrn."
Mae Cymru wedi codi i'r wythfed safle yn netholion rygbi'r byd yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Fiji, tra mai 16eg yw Portiwgal.
Bydd yn rhaid i Gymru orffen yn y ddau uchaf yng Ngrŵp C er mwyn sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf.
Os ydyn nhw'n llwyddo i wneud hynny, fe fyddan nhw'n herio tîm o grŵp D - sy'n cynnwys Lloegr, Ariannin, Japan, Samoa a Chile - yn y rownd honno, a hynny ym Marseille ar 14 neu 15 Hydref.
Amserlen gemau Cymru yng Ngrŵp C
Cymru v Portiwgal, Nice - 16:45 (amser Cymru) dydd Sadwrn, 16 Medi
Cymru v Awstralia, Lyon - 20:00 dydd Sul, 24 Medi
Cymru v Georgia, Nantes - 14:00 dydd Sadwrn, 7 Hydref
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2023
- Cyhoeddwyd11 Medi 2023
- Cyhoeddwyd10 Medi 2023
- Cyhoeddwyd9 Medi 2023