Dewi Lake: Disgwyl 'gêm anodd' yn erbyn Portiwgal
Rhaid i Gymru "ddangos parch" at Bortiwgal wrth eu herio yng Nghwpan Rygbi'r Byd dros y penwythnos, medd y capten Dewi Lake.
"'Dy'n nhw ddim yn dîm sy' just yma i greu niferoedd," meddai cyn y gêm yn Nice ddydd Sadwrn.
"Y'n ni'n disgwyl gêm anodd."
Mae Lake yn un o 13 newid o'r tîm ddechreuodd y fuddugoliaeth yn erbyn Fiji nos Sul.
Dim ond yr wythwr Taulupe Faletau a'r asgellwr Louis Rees-Zammit sy'n aros yn y tîm.
Fodd bynnag, dywedodd Lake y byddan nhw'n "mynd mewn i'r gêm fel unrhyw gêm arall".