Dewi Lake: 'Cael y pwynt bonws oedd y peth pwysicaf'

Mae cyd-gapten tîm rygbi Cymru, Dewi Lake, wedi cydnabod bod gêm ddydd Sadwrn yn erbyn Portiwgal yng Ngrŵp C Cwpan Rygbi'r Byd wedi bod yn anoddach nag oedden nhw wedi rhagweld.

Lake wnaeth sgorio un o'r ceisiau wnaeth sicrhau'r fuddugoliaeth i dîm Warren Gatland - o 28 pwynt i 8.

Ond i lawer doedd y sgôr ddim yn adlewyrchiad teg o berfformiad Portiwgal.

Cyn yr ornest yn Stade de Nice, roedd rhai cefnogwyr yn llygadu sgôr tebyg i 1994, pan wnaeth Cymru drechu Portiwgal o 102-11 yn yr unig gêm flaenorol rhwng y ddau dîm.

Yn ôl Lake roedd y garfan wedi disgwyl i dîm cyfredol Portiwgal chwarae'n dda, ond roedd awch y chwaraewyr i wneud gêm go iawn ohoni wedi eu synnu.