Cwpan Rygbi'r Byd: Cymru'n trechu Portiwgal o 28 i 8
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi sicrhau ail fuddugoliaeth yn eu hail gêm yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd, ond doedd hi ddim yn gêm hawdd yn erbyn Portiwgal yn Nice.
Ceisiau gan Louis Rees-Zammit, y ddau gyd-gapten Dewi Lake a Jac Morgan yn yr ail hanner, cais hwyr Taulupe Faletau i sicrhau pwynt bonws, a chiciau Leigh Halfpenny a Sam Costelow wnaeth sicrhau'r fuddugoliaeth i dîm Warren Gatland.
Ond roedd y sgôr terfynol o 28-8 ddim yn adlewyrchu'n deg ar berfformiadau'r ddau dîm.
Roedd yna ddechrau bywiog i'r gêm yn Stade de Nice ac fe ildiodd Johnny Williams gic gosb trwy gamsefyll. Yn ffodus fe darodd Samuel Marques y postyn.
Ond yna fe ddangosodd Rees-Zammit a Faletau pam taw nhw oedd yr unig ddau chwaraewr i gadw eu lle yn y 15 cyntaf yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Fiji nos Sul.
Fe dderbyniodd y bêl gan Jac Morgan, a fu'n rhaid cymryd lle Tommy Reffell ar y funud olaf wedi iddo gael anaf wrth gynhesu cyn y gêm, ei chicio drwodd a gwibio ar bwys yr ystlys dde a thros y llinell i sgorio cais cyntaf Cymru.
Yn fuan wedyn roedd angen tacl arbennig gan Faletau i atal Nicolas Martins rhag anelu am y llinell ben arall y cae, ac fe sgoriodd Marques bwyntiau cyntaf Portiwgal gyda chic gosb.
Cyn diwedd yr hanner cyntaf roedd Williams, oedd wedi dychwelyd i'r maes wedi cyfnod yn y cwrt cosbi, yn meddwl ei fod wedi sgorio cais, cyn i'r lluniau fideo ddangos ei fod wedi colli gafael ar y bêl am eiliad cyn tirio.
Ond doedd dim amheuaeth pan ddaeth cais Lake gyda symudiad olaf yr hanner, a gyda throsiadau Halfpenny roedd hi'n 14-3 ar yr egwyl.
Fe gafodd Cymru ddechrau blêr i'r ail hanner ac roedden nhw'n ffodus na lwyddodd Portiwgal i'w cosbi trwy sgorio rhagor o bwyntiau.
Roedd ail ymgais Marques gyda chic gosb, o'i hanner ei hun, yn brin o'r nod, ac wedi rhyw 10 munud, fe newidiodd Warren Gatland y rheng flaen cyfan.
Gyda mwy o siâp i'r tîm, fe diriodd Morgan o'r sgrym, a gyda throsiad Halfpenny roedd y bwlch wedi ymestyn i 21-3.
Ond fe ymatebodd Portiwgal trwy eilyddion hefyd, gan sgorio'u cais cyntaf, yn gwbl haeddiannol, wedi pas i Martins o'r lein.
Roedd yna orfoledd ymhlith cefnogwyr Cymru pan basiodd Rees-Zammit bêl gampus i Gareth Davies ei thirio wrth y pyst.
Ond fe dyfarnodd y TMO bod Tomas Francis wedi troseddu cyn y symudiad a doedd y cais ddim yn sefyll.
Roedd yn ymddangos, yn wyneb amddiffyn arwrol Portiwgal, mai ofer fyddai ymdrechion Cymru i sicrhau pedwerydd cais a phwynt bonws.
Ond fel yn achos yr hanner cyntaf, fe ddaeth cais gyda symudiad olaf y gêm - o'r sgrym gan Faletau.
Mae Cymru wedi llwyddo i gynnal momentwm yng Ngrŵp C, ond doedd dim bwlch enfawr rhwng pwyntiau'r ddau dîm fel yr oedd llawer wedi rhagweld, a gobeithio ei weld.
Roedd yna deimladau cymysg wrth i gefnogwyr Cymru adael y stadiwm.
"Ro'n i'n falch iawn o'r canlyniad,"dywedodd Sarah Tripp o Borthaethwy. "Roedd yna gamgymeriadau gan y ddwy ochor, ond roedd yr awyrgylch yn anhygoel.
"'Dwi'n falch bod o drosodd a bod ni wedi ennill. Ro'n i'n bendant yn nerfus bod nhw ddim yn mynd i ga'l y pwynt bonws, yn enwedig efo dau gais disallowed."
Roedd hi'n noson "siomedig", ym marn Ann Aviles o Gastell-nedd.
"Ro'n i'n meddwl fysa Cymru ar dân i sicrhau'r fuddugoliaeth.
"Ond roedd Portiwgal mor dda, roedden nhw wastad ar bennau Cymru, a wnaethon nhw mor dda i gael y sgôr wnaethon nhw. Rwy'n falch gawson ni'r pwynt bonws yn y diwedd."
Ro'n i'n meddwl ein bod ni'n rhydlyd ofnadwy," dywedodd Gareth o Ferthyr Tudful.
"Mae'n fy mecso i. Ro'n i'n meddwl dan Gatland na fydden ni'n tanbrisio'r gwrthwynebwyr a dyna wy'n meddwl 'dyn ni newydd wneud. Roedden nhw'n wirioneddol dda."
Dywedodd Mabli Llŷn o'r Felinheli: "Roedd yn eitha' stressful - ddim y perfformiad gora'.
"Ro'n i'n disgw'l llwyth o geisiau, a Louis Rees-Zammit i gael o leia' tri.
"Nathon ni ennill, dyna sy'n bwysig... ond roedd o'n berfformiad eitha' gwael."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Medi 2023
- Cyhoeddwyd15 Medi 2023
- Cyhoeddwyd13 Medi 2023
- Cyhoeddwyd11 Medi 2023